MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL Y GRANGO
Allt TÅ• Gwyn
Rhos
Wrecsam
LL14 1EL
Ffôn: 01978 833010
Ebost: info@grango.co.uk
Pennaeth: Ms V Brown, CPCP

Parhaol
1.0 Cyfwerth ag amser llawn
11-16 Ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg
Nifer ar y Gofrestr 580
Ar gyfer mis Medi 2025

Mae'r llywodraethwyr am benodi athro Gwyddoniaeth creadigol a llawn cymhelliant.

Rydym yn chwilio am ymarferydd dosbarth rhagorol sy'n awyddus i ddatblygu addysgu a dysgu rhagorol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos y sgiliau, y weledigaeth a'r brwdfrydedd i ysbrydoli disgyblion i gyflawni eu gorau. Bydd hefyd yn adeiladu ar arfer da sydd eisoes wedi'i sefydlu, ac yn helpu i fynd â'r adran i gam nesaf datblygiad cyffrous yr ysgol. Croesewir ceisiadau gan athrawon sy'n ceisio eu swydd gyntaf, yn ogystal â chan gydweithwyr mwy profiadol.

Mae Ysgol y Grango yn ysgol ffyniannus a phoblogaidd sy'n gwasanaethu pentrefi Rhosllannerchruchog, Ponciau, Johnstown a Pen-y-cae. Mae safonau ymddygiad yn uchel, mae'r staff yn wych ac mae rhieni'n cymryd rhan weithredol ac yn gefnogol iawn. Rydym yn chwilio am athro dynamig sy'n barod i ymuno â'n hadran Wyddoniaeth ffyniannus. Mae angen rhywun arnom sy'n gallu addysgu Gwyddoniaeth ar draws CA3 a CA4.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Gwnewch gais trwy lythyr a ffurflen gais. Dylai eich llythyr amlinellu sut mae eich sgiliau a'ch profiad yn eich paratoi ar gyfer y rôl hon.

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, e-bostiwch rheolwr busnes yr ysgol yn harveym38@hwbmail.net

Mae pecyncais ar gyfer y swydd ar gael yn: info@grango.co.uk, trwy ei lawrlwytho o'r dolenni isod neu o wefan yr ysgol: www.grango.co.uk

DYCHWELWCH YR HOLL FFURFLENNI CAIS WEDI'U LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT REOLWR BUSNES YR YSGOL YN YR YSGOL.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.