MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair
Ffordd Lea
Wrecsam
LL13 7NA
Ffôn: 01978 352406

Pennaeth: Mrs R F Acton

CYFNOD SYLFAEN
CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 1 (Cymorth Unigol)

I WEITHIO AR SAIL UNIGOL 1:1 YN CEFNOGI DISGYBL AG ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL / MEDDYGOL

G03: £24,027 - £24,404 pro rata

27.50 AWR YR WYTHNOS (8.45am-3.15pm gydag egwyl ginio hanner awr)

2.5 AWR YR WYTHNOS o ddyletswydd amser cinio

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Dros dro (CYFNOD MAMOLAETH)

I ddechrau ym mis Gorffennaf 2025 ac i gyflenwi yn ystod Absenoldeb Mamolaeth.
Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 brwdfrydig sydd â phrofiad addas i ymuno â'n tîm ymroddedig ac arloesol yn ein hysgol hynod hapus, gofalgar a chynhwysol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

Hyrwyddo ethos cynhwysol yr ysgol yn weithredol ac yn dathlu natur amrywiol ein hysgol

Gweithio yn ein lleoliad Cyfnod Sylfaen cynhwysol sy'n darparu cymorth 1:1 i ddisgybl ag anghenion meddygol/dysgu (darperir hyfforddiant)

Gweithio'n agos gyda'r athrawon dosbarth, gan ddarparu ymyriadau targedig i gynorthwyo'r disgybl i wneud cynnydd

Cefnogi'r disgybl i weithio o fewn amgylchedd yr ystafell ddosbarth ac mewn grwpiau bach/ 1-1 gan ganolbwyntio ar dargedau'r disgybl unigol

Gweithio ochr yn ochr â'r athrawon dosbarth a'r cynorthwywyr addysgu i sefydlu perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda rhieni ac asiantaethau allanol perthnasol er mwyn cefnogi anghenion y disgybl

Darparu gofal personol

Corfforol abl i gefnogi/codi disgybl(ion), os oes angen

Sgiliau TGCh da ac yn gallu defnyddio offer TG yn hyderus

Profiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion meddygol ac anghenion dysgu ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif uchod.

Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae croeso mawr i ymgeiswyr ymweld â'r ysgol. Ffoniwch 01978 352406 i wneud apwyntiad.
I wneud cais: Lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais y CES (Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig) sydd ar gael ar y dudalen we, neu i gael pecyn cais cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt, Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG, neu ffoniwch 01978 292012.

E-bostiwch ffurflenni cais wedi'u cwblhau a'r wybodaeth ategol at Mrs R F Acton (Pennaeth) yn mailbox@stmarys-wxm-pri.wrexham.sch.uk

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Nodwch fod pob swydd ysgol yn destun gwiriad manwl gan y GDG
(Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

Dyddiad Cau: Dydd Llun 2 Mehefin 2025, erbyn hanner dydd
Llunio Rhestr Fer: Dydd Mawrth 3 Mehefin 2025
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 9 Mehefin 2025

Cyfweliad ac arsylwi: (Sylwer: Fel rhan o'r broses gyfweld, byddwn yr arsylwi'r ymgeisydd yn gwneud gweithgaredd byr, a ddarperir ymlaen llaw, yn yr ystafell ddosbarth.)