MANYLION
  • Lleoliad: Caernarfon,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £50,788 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Rheolwr Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau Addysg

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £50,788 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â'r panel sy'n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Debbie Anne Jones ar 01286 679958 neu drwy e-bost: debbieannewilliamsjones@gwynedd.llyw.cymru

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 12:00 O'R GLOCH, 04/06/2025

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar y 10/06/2025

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Un sy'n rhoi sylw i fanylion.

Un sy'n gallu blaenoriaethu gwaith ac yn cwrdd â therfynau amser penodol.

Un sy'n gallu gweithio fel rhan o dîm.

Un sy'n gallu blaenoriaethu a chymryd cyfrifoldeb, gan ddirprwyo'n effeithiol yn ôl yr angen.

Un sy'n gallu arwain yn effeithiol gan gyfathrebu a chydweithio gydag ystod eang o ran-ddeiliaid.
Dymunol
Un sy'n gallu arwain a hyfforddi
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cymhwyster proffesiynol neu gymhwyster rheolaeth neu radd.

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus.
Dymunol
Cymhwyster Rheoli Prosiect neu o Reoli Rhaglenni.

Cymhwyster neu gefndir ym maes Bwyd, Glanhau a/neu Iechyd a Diogelwch.

Cymhwyster cyfrifiadurol Word ac Excel neu ECDL.

Cymhwyster proffesiynol arall perthnasol.
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o arwain tîm yn llwyddiannus

Profiad o weithio gyda a rheoli nifer o fudd-ddeiliaid.

Profiad o reoli gwasanaeth a/neu brosiectau mawr a chymhleth.

Profiad o arwain nifer o brosiectau a methodoleg rheoli prosiectau.

Profiad o ddatblygu fframweithiau a gweithdrefnau er mwyn cyflwyno gwell gwasanaeth.

Profiad o reoli cyllid, offer, ac adnoddau

Profiad o weinyddu ar lefel uwch
Dymunol
Profiad o gynghori, herio a dylanwadu ar lefel strategol mewn sefydliad cymhleth.

Profiad o gynghori ar faterion polisi neu ganllawiau cenedlaethol.

Profiad a/neu dealltwriaeth o ofynion statudol perthnasol e.e. iechyd a diogelwch, caffael ayyb.

Profiad o hyfforddi a / neu mentora.

Ymwybyddiaeth o ofynion diogelu mewn ysgolion.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Gwybodaeth arbenigol a thechnegol o'r gofynion sy'n berthnasol o safbwynt iechyd a diogelwch, asesiadau risg, hylendid bwyd, diogelu ac atal, symud a thrin ayyb gan allu cynghori a gweithredu'n briodol.

Gwybodaeth a phrofiad am hanfodion llunio ceisiadau grant a hawliau incwm a ansawdd ac i safon uchel.

Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth.

Y gallu i drefnu, blaenoriaethu a dirprwyo gwaith yn effeithiol.

Y gallu i ddefnyddio a dehongli gwybodaeth a data yn gywir gan eu cymhwyso i yrru gwelliannau.

Y gallu i gynllunio, monitro ac adrodd.

Y gallu i arwain a gweithio fel rhan o dîm.

Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin pobl, ac ar bapur yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Dymunol
Ymwybyddiaeth o'r mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion ( Cymru ) 2009 a Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion ( Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013

Ymwybyddiaeth o bolisïau Adnoddau Dynol y Cyngor

Ymwybyddiaeth o bolisïau Iechyd a Diogelwch y Cyngor

Gwybodaeth am hanfodion methodoleg rheoli prosiectau Prince2.
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
CYFRIFOLDEBAU RHEOLI:

Arwain a Rheoli Pobl

Ysgogi, annog a grymuso staff trwy ddirprwyo gwaith yn effeithiol a thrwy greu awyrgylch o barch, cydweithio a chymryd risgiau.

Rheoli Adnoddau

Cynllunio a monitro er mwyn sicrhau gwasanaeth o safon a gwella parhaus. Darparu gwerth am arian trwy brynu, blaenoriaethu, rheoli a monitro defnydd effeithiol o adnoddau gan gydnabod bod gwybodaeth, gallu a sgiliau yn adnoddau hefyd.

Galluogi a Grymuso

Creu a chynnal awyrgylch sy'n galluogi pob aelod o'r tîm i gyfrannu a chymryd penderfyniadau er mwyn darparu'r gwasanaethau gorau posib

Cyflawni

Annog y tîm i arloesi, mentro a dysgu o brofiad er mwyn gwella perfformiad

Perfformiad a Datblygiad

Adnabod cryfderau a meysydd datblygu staff trwy oruchwyliaeth cyson o'r gwaith a gyflawnir.

Datrys Problemau

I fod yn rhagweithiol ac i sicrhau fod penderfyniadau ystyrlon yn cael eu gwneud mewn modd amserol, gan hefyd ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau fel y maent yn newid.

Cyfathrebu

Rhannu a gwrando ar wybodaeth, barn a syniadau heb ragdybiaeth trwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol. Cynyddu cymhelliant trwy ddefnyddio cyfathrebu cynhwysol sy'n gwerthfawrogi teimladau eraill.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifoldeb am dros 600 o staff

• Cyfrifoldeb am gyllideb o bron i £15 miliwn

• Cyfrifoldeb am offer cegin a glanhau
Prif ddyletswyddau
PRIF DDYLETSWYDDAU

Arwain y Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau ar gyfer Ysgolion Gwynedd:

• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Cyfrifoldeb am gyfeiriad strategol y gwasanaeth arlwyo a glanhau gan lunio gweledigaeth gyfoes ar gyfer y gwasanaeth sy'n cael ei rannu a'i ddeall gan yr holl randdeiliaid.

• Cyfrifoldeb am gyfeiriad model busnes y gwasanaeth, gan ystyried ac ymchwilio i opsiynau amgen o ddarparu'r gwasanaeth yn ôl yr angen.

• Cyfrifoldeb am gydlynu a dehongli'r gwaith angenrheidiol sydd angen sylw gan lunio ac adnabod blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth i'w gweithredu fel rhan o drefniadau cynllunio busnes y gwasanaeth a'r Adran yn flynyddol.

• Cyfrifoldeb am arwain a rheoli tîm bychan o staff canolog, gan ddyrannu cyfrifoldebau'n briodol iddynt er sicrhau bod y tîm yn cyflawni'r disgwyl, gan arwain y tîm yn strategol.

• Cyfrifoldeb am arwain dros 600 o staff mewn dros 80 o safleoedd addysg ar draws y sir, gan arwain a gweithredu ar brosesau adnoddau dynol e.e. penodi, diswyddo, salwch, medrusrwydd a disgyblaeth yn briodol ac amserol yn unol â'r polisïau a'r arweiniad corfforaethol sydd ar gael.

• Cyfrifoldeb am arwain a gweithredu trefniadau er sicrhau amgylchedd gweithio diogel ar gyfer pob aelod o staff y gwasanaeth arlwyo a glanhau yn ddyddiol, gan gydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol iechyd a diogelwch.

• Cyfrifoldeb dros lunio canllawiau ar ffurf Llawlyfr i staff yn y maes arlwyo a glanhau er sicrhau bod staff yn gweithio mewn amgylchedd saff a diogel, ac yn darpau'n ddiogel a phriodol ar gyfer eu cwsmeriaid.

• Cyfrifioldeb dros drefniadau rheoli risg y gwasanaeth, gan gynnwys trefniadau rheoli risg ym maes alergeddau.

• Cyfrifoldeb i sicrhau adnoddau ac offer priodol ar gyfer pob aelod o staff yn barhaus e.e. offer cegin, offer glanhau, gwisg addas, adnoddau staffio a chyllid ayyb.

• Cyfrifoldeb am arwain a sicrhau rheolaeth gyllidol effeithiol o'r gwasanaeth sydd gyda chyllideb obron i £15 miliwn, gan gynnwys sicrhau gwariant blynyddol priodol ar gyfer y gwasnaeth, sicrhau lefelau incwm priodol a chyson ar gyfer y gwasanaeth, sicrhau lefelau staffio priodol ar gyfer pob agwedd o'r gwasanaeth yn unol â'r gyllideb sydd ar gael, ynghyd a threfn briodol ac effeithiol o gasglu dyledion clwb brecwast a chinio ysgol.

• Cyfrifoldeb am holl agweddau o wasanaethau cwsmer y gwasanaeth, gan gynnwys ymateb ac ymchwilio i gwynion yn unol â'r drefn gwynion gorfforaethol, gweithredu trefniadau amrywiol i gasglu barn rhanddeiliaid yn cynnwys barn penaethiaid, plant a phobl ifanc ar y gwasanaeth gan ystyried, addasu ac ymateb i'r sylwadau a dderbynnir yn ôl yr angen.

• Cyfrifoldeb am arwain a gweithredu Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer y maes arlwyo a glanhau ar y cyd gyda'r ysgolion, gan sicrhau eglurder a chydymffurfiaeth gyda thelerau'r CLG, gan feithrin perthynas gweithio cadarnhaol gyda phenaethiaid ysgolion, er mwyn sicrhau eu bodlonrwydd gyda phob agwedd o'r gwasanaethau a ddarperir iddynt.

• Cynrychioli'r Cyngor mewn cyfarfodydd a ffeiriau cyhoeddus, ynghyd â mewn cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid allweddol sy'n ymwneud â'r maes arlwyo a glanhau e.e. penaethiaid ysgolion, cyrff llywodraethol, cwmnïau sector preifat e.e. darparwyr bwyd, darparwyr offer glanhau, cwmnïau prynu a thrwsio offer, cwmnïau trydydd sector ayyb.

• Cynrychioli'r Cyngor fel yn briodol mewn trafodaethau efo swyddogion ac aelodau Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal â swyddogion mewn cynghorau eraill.

• Cymryd rhan ar Weithgorau'r Cyngor fel bo angen

• Bod yn arbenigwr technegol yn y maes, gyda dealltwriaeth lefel uchel a gweithredol o systemau TGCh ysgolion sy'n berthnasol i'r maes arlwyo e.e. system ddi-arian, system MIS ayyb.

• Meithrin y gallu a'r arbenigedd i arwain ar drafodaethau caffael lefel uchel ar gyfer y gwasanaeth ei hun ac ar ran ysgolion y sir e.e. caffael systemau TGCh, caffael cyflenwyr bwyd, caffael deunyddiau glanhau ayyb.

• Paratoi adroddiadau a dogfennau perthnasol ar gyfer adrodd i'r Tîm Rheoli Addysg, cyfarfodydd busnes a fforymau strategol penaethiaid ysgolion, ynghyd â phwyllgorau'r Cyngor yn ôl yr angen.

• Cyfrifoldeb am arwain a rheoli'r gwasanaeth er sicrhau'r safonau uchaf ym maes glanhau ysgolion, gan weithredu ar unrhyw ddiffygion a risgiau'n amserol.

•r safonau uchaf ym maes Diogelwch Bwyd a Hylendid Bwyd, gan ymgymryd â'r rôl gwarchod y cyhoedd o ddifrif gan weithredu ar unrhyw ddiffygion a risgiau'r prosesau a'r gweithredoedd ynghlwm â chynnig pryd bwyd maethlon ac iachus i bob dysgwr, yn cynnwys:

-Llunio'r fwydlen gynradd gan sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion gan adolygu'r fwydlen ddwywaith y flwyddyn, a/neu mewn ymateb i gynhwysion sy'n newid neu adborth gan ddysgwyr.

-Ystyried gofynion canllawiau Llywodraeth Cymru gan lunio a pharatoi bwydlenni addas ac apelgar ar gyfer darparu pryd bwyd maethlon ac iachus i ddysgwyr yn unol â'r safonau cenedlaethol.

-Sicrhau bod offer priodol ymhob cegin i allu darparu pryd bwyd maethlon ac iachus i bob dysgwr.

-Sicrhau staffio priodol ymhob cegin i allu darparu pryd bwyd maethlon ac iachus i bob dysgwr.

-Sicrhau cydymffurfiaeth gyda Chytundeb Bwyd yr Adran Addysg gan gyfathrebu a thrafod unrhyw anfodlonrwydd gydag elfennau o'r cytundeb er sicrhau datrysiad buan.

-Gweithredu'r Cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Cynradd.

-Sefydlu a gweithredu trefn amserol o gasglu incwm a dyledion yn gysylltiedig â darparu pryd bwyd maethlon i ddysgwyr.

-Arwain a hwyluso'r trefniadau ynghlwm a thalu ar-lein ar y cyd gyda rhanddeiliaid allweddol.

-Cymhwyso gwybodaeth 'cinio am ddim' Adran Budd-daliadau at sefyllfa incwm prydau ysgol a gofynion adrodd ar ddata i Lywodraeth Cymru.

• Arwain a gweithredu ymgyrchoedd ar y cyd gydag ysgolion sydd yn hyrwyddo cinio am ddim ac yn annog rhagor o deuluoedd i fanteisio ar y cynnig.

• Arwain a gweithredu cynlluniau ar gyfer plant a theuluoedd mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru sydd wedi'i seilio ar ddarparu bwyd a bwyta'n iach e.e. Bwyd a Hwyl.

• Cyfrifoldeb dros reoli'r drefn ynghlwm â darparu Clwb Gofal Cyn-ysgol/Clwb Brecwast

•r Cynllun Llefrith a chyflwyno hawliadau cyllidol i Lywodraeth Cymru yn gywir ac amserol.

• Cyfrifoldeb gofalu dros adeiladau ysgolion sydd wedi cau.

• Arwain a gweithredu trefniadau'r rhaglen werthuso parhaus yn rhagweithiol gydag aelodau perthnasol o'm yn unol â gofynion yr Adran Addysg a'r Cyngor.

• Cyfrifoldeb am hunanddatblygiad ac am hyrwyddo datblygiad aelodau perthnasol o'm gan fanteisio ar raglen barhaus o gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad personol Dysgu a Datblygu ynghyd â sefydliadau allanol eraill perthnasol.

• Ymgymryd ag unrhyw gyfrfioldeb neu ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol ar gais y Pennaeth Addysg neu Bennaeth Cynorthwyol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
AMODAU GWAITH

• Mae'r swydd hon ar delerau parhaol

• Oriau gwaith y swydd hon yw 37 awr yr wythnos.

•r Cyngor yn gweithredu trefniadau gweithio'n hybrid, gyda'r disgwyliad i weithio o'r swyddfa o leiaf deuddydd yr wythnos.

• Lleolir y swydd ym Mhencadlys, Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon.

•r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn angenrheidiol.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi