MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Teacher's Pay Scale
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/awes Cynradd (Camau Cynnydd 1 & 2)

Torfaen Local Authority

Cyflog: Teacher's Pay Scale

Ar gyfer Medi 2025
Contract parhaol
Mae Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi athro / athrawes egniol ac ymroddgar sydd yn arddangos sgiliau addysgu ardderchog ar lawr y dosbarth i ymuno â thîm o athrawon brwdfrydig, gweithgar a hapus.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod oddi wrth athrawon profiadol ac athrawon sydd newydd gymhwyso. Byddwn yn cynnig swydd o fewn y cam cynnydd un yn y lle cyntaf. Disgwylir i'r ymgeiswyr llwyddiannus gyfrannu at fywyd allgyrsiol yr ysgol.
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar drothwy cyfnod cyffrous yn ei hanes. Agorodd yr ysgol i fod yn ysgol bob oed (3-19) cyntaf Awdurdod Addysg Torfaen yn Medi 2022 wrth i'n hadran sylfaen groesawu ein disgyblion cyntaf mewn adeilad newydd sbon. Rydym yn cyd-gynllunio fel tîm i baratoi ar gyfer trefniadau cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys edrych ar ein cwricwlwm, addysgu, mesur cynnydd a'n trefniadaeth gyffredinol.
Rydym yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol ein staff fel prif ffocws. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn cydweithio'n dda i ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Byddwn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu eich hun yn broffesiynol wrth i'r ysgol ddatblygu trwy ddarparu cefnogwr addysgeg bersonol i'r ymgeisydd llwyddiannus. Mae cefnogwr addysgeg ag athrawon yn bartneriaid yn y broses o gynnal a gwella safonau dysgu ac addysgu yn barhaus.
Agorodd Ysgol Gyfun Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988 ac ers y cyfnod hynny, braf yw gweld addysg Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal hon. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pwl, ac yn gyfleus iawn i'r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a'r M5 a phriffordd Pennau'r Cymoedd sy'n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Mae'r ysgol hefyd yn gweithio'n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd a chynigir amryw o gyfleoedd datblygiad proffesiynol fel rhan o hyn.
Mae hwn yn gyfle arbennig i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan gan fodloni blaenoriaeth genedlaethol.
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ysgol sy'n hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru ac mae'n ymfalchïo yn ei llwyddiant i fagu siaradwyr Cymraeg rhugl. Felly, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus, ynghyd â holl staff yr ysgol, rannu a hyrwyddo'r weledigaeth hon.
Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â Gareth Jones, Dirprwy Bennaeth. gareth.jones@gwynllyw.cymru
Mawr obeithiwn y byddwch yn gwneud cais i ymuno â ni wrth i ni ddatblygu a gwella gyda golwg clir ar y dyfodol. Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a'i ddychwelyd atom erbyn 23:59 dydd Llun 19eg o Fai 2025.