MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Teacher's Pay Scale
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Athro Tymor Penodol - Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam
Torfaen Local Authority
Cyflog: Teacher's Pay Scale
Angen o: 1 Medi 2025 tan 31 Awst 2026Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon brwdfrydig ac ymroddgar sy'n dymuno ymuno â'n tîm profiadol ac ymroddedig.
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llantarnam yn ysgol gymunedol gyfeillgar, uchel ei chyflawniad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol ymroddgar a brwdfrydig iawn a bydd angen cyfrannu at yr agenda gwella ysgolion. Mae sgiliau rhagorol wrth addysgu a rheoli dosbarth yn hanfodol a bydd rhaid i ymgeiswyr weithio mewn modd cadarnhaol i gynnal ethos cwbl gynhwysol. Rhaid i ymgeiswyr ymrwymo i'w datblygiad proffesiynol eu hunain a bod yn barod i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Bydd angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Dyddiad Dewis Rhestr Fer: 02/06/2025
Dyddiad Arsylwi yn yr Ystafell Ddosbarth: 04/06/2025 a 05/06/2025
Dyddiad y Cyfweliad: 06/06/2025