MANYLION
  • Lleoliad: Abertawe | Swansea , Swansea, SA1 1NW
  • Testun: Gweinyddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £20,089 - £23,900
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 10 Mehefin , 2022 9:00 y.b

This job application date has now expired.

Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol

Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae rôl Gweinyddwr yn rôl amrywiol o fewn y sefydliad, byddwch yn cynorthwyo'r Rheolwr Rhanbarthol, Swyddogion Cyflenwi Cwricwlwm a Thiwtoriaid i sicrhau bod yr holl weithgareddau gweinyddol yn cael eu cwblhau o fewn terfynnau amser a hefyd sicrhau gweinyddiaeth cywir wrth gadw cofnodion mewn perthynas â holl dargedau darpariaeth, cyllid ac ansawdd y cytunwyd arnynt.
Mae hon yn rôl ymarferol, yn gweithredu ar gyflymder, byddwch yn cyflawni drwy ddarparu amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Bod yn bwynt cyswllt ac ymateb i ymholiadau arferol gan ddysgwyr, aelodau, rhanddeiliaid, y cyhoedd a chydweithwyr
- Tasgau prosesu data, megis cofnodi manylion cyrsiau, prosesu cofrestriadau a gwerthusiadau dysgwyr
- cofrestru cyrsiau ar y Systemau Rheoli Gwybodaeth (SRhG),
- prosesu holl hawliadau tâl tiwtoriaid,
- logio holl fanylion y dysgwr a’u gofynion cymorth.
JOB REQUIREMENTS
Rydym yn edrych am rywun gyda sgiliau gweinyddol a threfnu rhagorol, sy'n gallu gweithio'n dda yn annibynnol ac fel tîm. Byddwch yn dod â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol i adeiladu a datblygu perthnasoedd gyda chydweithwyr. Bydd gennych sgiliau a phrofiad sylweddol o holl ddyletswyddau gweinyddol swyddfa a phrofiad o godi archebion prynu a cheisiadau anfoneb, derbynneb bancio, derbynebau arian a dderbyniwyd a sgiliau TG cyffredinol da iawn sy'n cwmpasu'r defnydd o'r holl gymwysiadau meddalwedd swyddfa sylfaenol hy prosesu geiriau, taenlenni ac ati.
Cymhwysterau Hanfodol - safon dda o addysg gyffredinol gan gynnwys Lefel TGAU / O Saesneg a Mathemateg neu gyfwerth

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn fod cael gweithlu amrywiol ar bob lefel yn caniatáu i ni gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Mae persbectif a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir sydd gyda’r profiad a'r sgiliau anghenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.