MANYLION
  • Lleoliad: Port Talbot, Neath Port Talbot, SA12 6HZ
  • Testun: Cydlynydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £25,097 - £31,329
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

CYDLYNYDD DATBLYGU CWRICWLWM

CYDLYNYDD DATBLYGU CWRICWLWM

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Mae rôl Cydlynydd Dysgu Cymunedol yn rôl amrywiol ac allweddol o fewn y sefydliad. Yn cynorthwyo’r Rheolwr Rhanbarthol gyda ffocws ar gynorthwyo, a cefnogi datblygiad a gweithrediad rhaglen gydlynol o addysg oedolion.
Canolbwynt y rôl yng Nghastell-nedd Port Talbot fydd cynnal, cefnogi a datblygu ein darpariaeth cwricwlwm Celfyddydau Creadigol ac Adeiladwaith yn ein Hwb Dysgu ym Mhort Talbot (sy'n cynnwys ein darpariaeth 'Cysylltiadau Ysgol’ ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed, dosbarthiadau cymunedol a'r Gangen 'Gwaith Saer i Bawb') ac i ddatblygu ein darpariaeth gymunedol cyffredinol ar draws Castell-nedd Port Talbot.
Yn Sir Gaerfyrddin, pwrpas y rôl fydd cynnal, cefnogi a datblygu ein darpariaeth Celfyddydau a Dyniaethau, a’r ddarpariaeth gymunedol cyffredinol ar draws y sir, gan gynnwys darpariaeth SSIE helaeth sydd newydd ei sefydlu yn Sir Gaerfyrddin.

Mae hon yn rôl ymarferol lle byddwch chi'n gweithredu'n gyflym, yn annibynnol a gyda chefnogaeth gan dîm sefydledig.

Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):
– Cefnogi, datblygu, trefnu a chynllunio amserlen cwricwlwm, gan nodi adnoddau megis lleoliadau a thiwtoriaid i gyflwyno cyrsiau
– Gweithio’n agos a chefnogi staff cyflwyno i sicrhau fod y cwricwlwm gyflwynwyd yn bodloni anghenion y dysgwr a fod y cwrs yn bodloni’r gofynion a nodir gan unrhyw gorff dyfarnu a rheolaethau ansawdd mewnol.
– Gweithio gyda phartneriaid allanol a meithrin perthnasoedd arwyddocaol â nhw i gefnogi denu dysgwyr, datblygu’r ddarpariaeth a nodi cyfleoedd i gydweithio
– Cefnogi'r Rheolwr Rhanbarthol i sicrhau fod y ddarpariaeth a nodir yn cwrdd â thargedau gan gynnwys targedau ansawdd a chyllideb ariannol
JOB REQUIREMENTS
Rydym yn edrych am rywun gyda sgiliau trefnu, cynllunio a chydlynu rhagorol, I weithio’n dda fel rhan o dîm ac yn annibynnol. Yn dod a sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol i adeiladu a datblygu perthnasoedd gyda chydweithwyr, partneriaid a dysgwyr.
Cymwysterau hanfodol - Cymhwyster Addysgu Lefel 3, cymwysterau safonol o leiafswm Lefel 3

Mae Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn fod cael gweithlu amrywiol ar bob lefel yn caniatáu i ni gynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Mae persbectif a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i'n llwyddiant ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir sydd gyda’r profiad a'r sgiliau anghenrheidiol i gyflawni'r rôl hon.