MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mai, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Dyniaethau [ Cyflenwi Dros Dro dros Gyfnod Mamolaeth]

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Uwchradd Rhosnesni
Lôn Rhosnesni
Wrecsam
LL13 9ET
Ffôn: 01978 340840
www.rhosnesni-high.wrexham.sch.uk

Athro Hanes / Dyniaethau [ Cyflenwi Dros Dro dros Gyfnod Mamolaeth]

Pennaeth/Headteacher: Mr A Brant, BA(Anrh), CPCP
Angen ar gyfer Medi 2025
PRG / GGU

Mae Ysgol Rhosnesni yn ysgol gyfun 11-16 oed yn Wrecsam, Cymru, gyda 915 o fyfyrwyr ar y gofrestr ar hyn o bryd. Mae hon yn swydd newydd mewn ymateb i dwf sylweddol yr ysgol.
Mae llywodraethwyr yn dymuno recriwtio ymarferydd rhagorol i swydd Athro Hanes [Dros Dro] gyda'r gallu i addysgu meysydd pwnc eraill yn y Dyniaethau. Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso.
Mae Ysgol Rhosnesni yn gofyn am unigolyn creadigol, ysbrydoledig a dibynadwy i ymuno ag adran Ddyniaethau brofiadol. Mae'r swydd yn cynnig cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu ymarfer arloesol mewn addysgu a dysgu. Mae Ysgol Rhosnesni wedi ymrwymo i ddysgu proffesiynol, cydweithio a lles staff.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â 'Thîm Rhosnesni' wrth i'r ysgol wella a thyfu'n gyflym.
Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol cyn gwneud cais, cysylltwch â Mrs Sally Williams, Dirprwy Bennaeth ar 01978 340840.

I wneud cais: Cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen gais ar-lein sydd ar ein tudalen TES neu cwblhewch gais CBSW o wefan CBSW a'i dychwelyd yn uniongyrchol i'r ysgol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y disgrifiad swydd.

Gellir cysylltu ag ymgeiswyr cyn y dyddiad cau i drafod y cais ymhellach. Nid ydym yn derbyn ceisiadau trwy CV na gan Asiantaethau.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.