MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADRAN ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL DYFFRYN OGWEN, BETHESDA
(Cyfun 11 - 18; 400 o ddisgyblion)
Yn eisiau: erbyn 1af o Fedi 2025.
RHEOLWR BUSNES A CHYLLID
Disgwylir i'r sawl a benodir weithio yn bennaf yn rheoli ac arwain ar faterion gweinyddol a rheoli systemau yn yr ysgol. Bydd profiad a/neu gymhwyster mewn maes cyffelyb yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol Raddfa PS1, pwyntiau 29-31 (sef £38,626 - £40,476 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo'r Pennaeth Dylan Davies, Rhif ffôn: 01248 600291
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Nerys Williams, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, Gwynedd, LL57 3NN. Rhif ffôn: 01248 600291; e-bost: rhb@dyffrynogwen.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU, 22 MAI, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
Rheolwr Busnes a Chyllid
Aelod o'r Tîm Gweinyddol
Rheolwr cyswllt: Pennaeth
Yn gyfrifol am: Staff Ategol
Pwynt / Graddfa Cyflog:27 - 31
Dyddiad cychwyn: 1 af o Fedi 2025
Pwrpas y Swydd
- Rheoli cyllideb yr ysgol a sicrhau bod trefniadau monitro cadarn yn eu lle i gynnal y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau yn unol â rheoliadau ariannol
- Galluogi'r Pennaeth a'r Llywodraethwyr i wneud penderfyniadau cyllidol er lles yr ysgol trwy ddarparu adroddiadau manwl a chywir am gyllideb yr ysgol
- Cefnogi anghenion gweinyddol yr ysgol yn llawn
- Sicrhau bod yr ysgol yn cydymffurfio â pholisiau a rheoliadau statudol
- Cefnogi'r Uwch Dim Arwain i sicrhau gwasanaethau cymorth effeithiol ac effeithlon i gyflawni blaenoriaethau'r ysgol.
- Sicrhau bod llinellau cyfathrebu clir rhwng yr ysgol ac adrannau allweddol o'r AALl
- Hybu a hwyluso y defnydd cymunedol o'r ysgol
- Cynorthwyo i sicrhau bod adeiladau'r ysgol yn cyrraedd safonau a gofynion Iechyd a Diogelwch.
- Rheoli cyfleusterau'r ysgol, rheoli a monitro contractau, caffael, tendrau a chytundebau ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ysgol,
Cyllid
- Paratoi adroddiadau manwl sy'n dangos sefyllfa'r gyllideb a ragwelir ar gyfer yr ysgol yn seiliedig ar staffio a niferoedd disgyblion gan gymryd i ystyriaeth y blaenoriaethau a nodir yn y cynllun gwella ysgol.
- Paratoi adroddiadau ariannol i'r Pennaeth, yr Is-Bwyllgor Cyllid a'r Corff Llywodraethol gan gynnwys monitro incwm a gwariant trwy gydol y flwyddyn a darparu cyngor ac argymhellion i sicrhau fod gwariant o fewn y gyllideb.
- Rheoli gweinyddiaeth ddyddiol y gyllideb gan ddefnyddio'r system SIMS LRM - sicrhau cywirdeb holl drafodion ffeil cysoni'n fisol, prosesu archebion, anfonebau, incwm, a gwneud trosglwyddiadau cyllidol mewn ymgynghoriad â'r Is-Bwyllgor Cyllid.
- Llunio'r gyllideb, a'r gyllideb ddiwygiedig, mewn cydweithrediad â'r Pennaeth ar gyfer yr Is-Bwyllgor Cyllid.
- Darparu gwybodaeth gyson am falansau arfaethedig yr ysgol fel ffynhonnell wybodaeth greiddiol ar gyfer yr Is-Bwyllgor.
- Goruchwylio rheolaeth grantiau allanol drwy ddarparu gwybodaeth am eu defnydd i adain gyllid yr Awdurdod gan sicrhau bod trefniadau cadarn yn eu lle sy'n cadw at reoliadau ariannol.
- Cau cyfrifon diwedd y flwyddyn yn unol â'r rheoliadau ariannol.
- Gweinyddu holl gronfeydd yr ysgol. Cysylltu gyda'r archwilwyr allanol a darparu gwybodaeth iddynt. Darparu adroddiadau ar y cronfeydd i'r Is-Bwyllgor Cyllid.
- Rheoli defnydd o gerdyn credyd yr ysgol dan arweiniad y Pennaeth ac Adran Gyllid yr awdurdod.
- Rheoli 'petty cash' yr ysgol.
- Trosolwg o weinyddiaeth incwm a thaliadau School-Comms
- Darparu gwybodaeth yn ôl yr angen ar gyfer adran archwilio'r Awdurdod.
- Rheoli a gweinyddu'r cynllun gwersi offerynnau cerdd.
- Cynghori'r Corff Llywodraethwyr ar y defnydd gorau o adnoddau a fydd yn hwyluso'r gwaith o godi safonau a monitro perfformiad yn ogystal â mesur targedau perfformiad cywir.
- Gweithio'n rhagweithiol i ganfod ffyrdd newydd o weithio a herio'r dulliau presennol o ddarparu gwasanaethau er mwyn ceisio lleihau y pwysau cyllidol yn y dyfodol.
Llywodraethwyr
- Gweithredu fel clerc y Corff Llywodraethol a'r Is-Bwyllgorau: galw cyfarfodydd, trefnu'r agenda, paratoi'r ddogfennaeth, cofnodi cyfarfodydd, a gweithredu penderfyniadau.
- Rheoli'r holl ofynion statudol mewn perthynas â'r llywodraethwyr unigol: hyfforddiant mandadol, rhestr buddiannau, egwyddorion ymddygiad, gwiriadau troseddol GDG (DBS).
- Paratoi adroddiad blynyddol y Corff Llywodraethol i rieni mewn cydweithrediad â'r pennaeth.
- Cydweithio gyda'r Cadeirydd i baratoi arfarniad o waith y corff yn unol â chanllawiau cenedlaethol.
Gweinyddiaeth / Rheoli Pobl
- Rheolwr llinell i staff ategol yr ysgol
- Rheoli cyflogaeth goruchwylwyr amser cinio.
- Adolygu Datblygiad Proffesiynol y staff ategol, gan osod amcanion blynyddol a'u hadolygu.
- Mewn cydweithrediad â'r Pennaeth, llunio swydd ddisgrifiadau ar gyfer y staff ategol a'r hadolygu yn ôl yr angen.
- Cyfrifoldeb am faterion personél pob aelod o staff megis gweinyddu penodiadau a materion cyflog.
- Cydweithio â'r adran bersonél i sicrhau fod yr ysgol yn derbyn cyngor ac arweiniad ar faterion cyflogaeth.
- Cydlynu a chadw cofnodion o faterion yn ymwneud â phob aelod o staff gan gynnwys hyfforddiant amddiffyn plant, gwiriadau troseddol GDG (DBS), a chadw cofrestr gyfredol o HMS.
- Gweinyddu'r drefn absenoldebau ar gyfer pob aelod o staff a chadw manylion am bresenoldeb ac absenoldebau staff. Cwblhau'r ffurflenni priodol ac ardystio cywirdeb ceisiadau am dâl.
- Derbyn galwadau gan staff i nodi absenoldeb ar y diwrnod. Rheoli amserlen a rhaglen waith athrawon llanw yn unol â'r galw a gweinyddu'r trefniadau cyflenwi dyddiol. Anwytho athrawon llanw newydd i'r ysgol.
- Gweinyddu'r drefn o wirio dogfennaeth pob aelod o staff ar gyfer 'Gyrru ar Fusnes Ysgol'.
- Paratoi cyfrifiad blynyddol PLASC, cyfrifiad PLASC Ôl-16, cyfrifiad SWAC a'r cyfrifiad presenoldeb.
- Paratoi ystadegau ac adroddiadau perthnasol i'r Corff Llywodraethol, y Cynulliad, yr Awdurdod Addysg, Gyrfa Cymru, ac unrhyw gorff arall ar gais y pennaeth.
- Cofnodi cyfarfodydd ar gais y Pennaeth.
- Gweithredu dan arweiniad y Pennaeth i sicrhau fod y wybodaeth ar wefan yr ysgol yn gyfredol.
Systemau Rheolaethol
- Rheoli system SIMS yr ysgol, gan gynnwys gosod y fframwaith flynyddol ar gyfer derbyn yr amserlen a chyfansoddiad dosbarthiadau sy'n cynnwys aelodaeth disgyblion mewn dosbarthiadau, gan sicrhau rhediad effeithiol yr ysgol.
- Rheoli a datblygu systemau ar gyfer cynnal a chadw ffeiliau staff a disgyblion, cynhyrchu adroddiadau CTF's ar gyfer disgyblion sy'n trosglwyddo, a sicrhau fod y wybodaeth yn PLASC yn gywir.
- Mewn cydweithrediad â'r aelod UDA sy'n gyfrifol am arholiadau allanol, cynorthwyo'r Swyddog Data i gofrestru disgyblion drwy SIMS ar gyfer yr arholiadau ac i weinyddu canlyniadau'r disgyblion drwy SIMS, a chynhyrchu adroddiadau i'r uwch dim arwain.
Diogelu Data
- Sicrhau bod yr ysgol yn ymateb yn llawn i reoliadau diogelu data
- Cyd-weithio gyda swyddog diogelu data'r Awdurdod yn ôl yr angen.
Defnydd o'r Adeilad
- Trefnu a hwyluso defnydd cymunedol o'r ysgol.
- Gosod yr ysgol - trefnu anghenion y defnyddwyr, presenoldeb y gofalwr, anfon biliau a derbyn taliadau.
Adeiladau
- Mewn ymgynghoriad â'r UDA a'r Rheolwr Iechyd a Diogelwch, cysylltu â swyddogion yr Adran Eiddo a gweithwyr perthnasol i drefnu gwaith yn yr ysgol.
Yn dilyn ymgynghoriad, ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol
eraill ar gais y Pennaeth.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi