MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Teacher's Pay Scale
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Teacher's Pay Scale
Cyflog Prif RaddfaCytundeb Cyfnod Mamolaeth o fis Medi 2025
Mae'r ysgol lwyddiannus hon yn chwilio am athro neu athrawes gweithgar ac egnïol i gyfro mamolaeth aelod o'n tîm, i weithio fel rhan o dîm o staff ymroddgar, i gyfrannu at fywyd allgyrsiol yr ysgol ac i fod yn athro neu athrawes brwdfrydig ac ysbrydoledig.
Rhaid i'r ymgeiswyr:
- feddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol
- meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a'r Saesneg
- meddu ar sgiliau TGCh rhagorol
- bod yn ymrwymedig i ddatblygu'r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda'r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant
- dangos ymroddiad i gefnogi datblygiad ieithyddol a diwylliannol disgyblion drwy weithgareddau allgyrsiol
- bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg
- meddu ar yr hyblygrwydd angenrheidiol i ymgymryd â gwahanol ddyletswyddau mewn ysgol sy'n datblygu.
Ein cenhadaeth ar gyfer Ysgol Panteg yw datblygu ein plant mewn sefydliad diogel a hapus lle rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd i greu dinasyddion hyderus ar gyfer y dyfodol. Rydym yn falch o roi iaith a hanes Cymru wrth galon ein haddysgu wrth gofleidio technolegau newydd a meithrin balchder yn ein cymunedau. Trwy wrando ar blant a chefnogi ein teuluoedd, byddwch yn meithrin amgylchedd parchus lle gallwn ddathlu ein llwyddiannau a helpu ein gilydd. Ein bwriad yw rhoi dechrau positif i blant i addysg gydol bywyd.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys i ddechrau Medi 2025.
Am fanylion pellach a sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r Pennaeth, Dr. Matthew Williamson-Dicken, head.ysgolpanteg@torfaen.gov.uk.
Dylid cyflwyno ffurflenni cais wedi'u cwblhau trwy borth ymgeisio ar-lein Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen erbyn y 19eg Ebrill.
This advertisement is for a Welsh medium teacher at Ysgol Panteg.