MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanfairfechan,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: NJC G05 pwynt 12-19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch Parhaol - Ysgol Babanod Llanfairfechan
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: NJC G05 pwynt 12-19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn
YSGOL BABANOD LLANFAIRFECHAN(Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir gan yr Eglwys yng Nghymru)
Ffordd y Pentref, Llanfairfechan, LL33 0AA
Rhif Ffôn: (01248) 680289
Pennaeth: Mr Matthew Jones BAddysg, CPCP
Yn eisiau erbyn Medi 2025
CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL UWCH PARHAOL
32.5 awr, tymor ysgol a 5 diwrnod hyfforddiant
Cyflog: NJC G05 pwynt 12 - 19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn
Mae Llywodraethwyr Ysgol Babanod Llanfairfechan yn dymuno penodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (CALU) brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n cymuned ysgol ofalgar a chynhwysol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gyda'r athrawon dosbarth i gynllunio, cyflwyno a gwerthuso gweithgareddau dysgu ar draws y Cyfnod Sylfaen. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi addysgu a dysgu o safon uchel, arwain sesiynau dosbarth cyfan, a chyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Am ragor o fanylion yngln â'r swydd cysylltwch â'r ysgol ar 01248 680289
I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.
Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.
Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur.
Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English