MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Teacher's Pay Scale
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro Dros Dro x 2 - Ysgol Gynradd Llanyrafon

Torfaen Local Authority

Cyflog: Teacher's Pay Scale

Cyfnod penodol am 1 flwyddyn
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir ym Manyleb y Person a atodir, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â staff Ysgol Gynradd Llanyrafon, sy'n ysgol fawr, lwyddiannus a ffyniannus yng Nghwmbrân. Rydym yn chwilio am unigolion sy'n ymarferwyr rhagorol yn yr ystafell ddosbarth, sy'n barod i ddarparu cyfleoedd ysgogol, cyffrous a heriol i alluogi pob dysgwr i gyrraedd eu potensial. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dod yn rhan o dîm ymroddedig o weithwyr proffesiynol sy'n ymdrechu i roi'r dechrau gorau i blant Llanyrafon ar eu taith addysg.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â dealltwriaeth ardderchog o'r Cwricwlwm i Gymru.
Dylech hefyd fod yn gallu gweithio'n effeithiol ac yn annibynnol, gan ddefnyddio eich menter eich hun, yn ogystal â bod yn ddibynadwy, yn wydn, yn hyblyg ac yn rhagweithiol.
Mae angen i ymgeiswyr allu gweithio gyda'i gilydd yn effeithiol fel aelodau o'n tîm ysgol cryf a chyfrannu'n llawn at fywyd yr ysgol gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â'r pennaeth, Eve Rowlands trwy 01633 867130.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar bob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rhestr Fer: 2ail Mehefin 2025
Arsylwadau gwers: 9fed a 10fed Mehefin 2025
Cyfweliadau:12fed Mehefin 2025