MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Teachers Payscale
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: Teachers Payscale
Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg LlantrisantDisgrifiad Swydd
Athro / Athrawes gyda Chyfrifoldeb am TGCh ac Addysg Gorfforol
Cam Cynnydd 2 neu 3 - i gychwyn Medi 2025
Ydych chi’n addysgwr brwdfrydig ac uchelgeisiol gyda dawn arbennig mewn TGCh ac Addysg Gorfforol? Ydych chi’n credu mewn meithrin disgyblion i fod yn ddysgwyr galluog, hyderus a chwilfrydig? Os felly, hoffem glywed gennych!
Mae Bwrdd llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant yn chwilio am athro neu athrawes ysbrydoledig a deinamig i ymuno â’n tîm ymroddedig. Mae hon yn gyfle cyffrous i arwain ac arloesi ym meysydd TGCh ac Addysg Gorfforol wrth gefnogi ein gweledigaeth o ddatblygu disgyblion yn unol â Phedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o Gwricwlwm i Gymru ac ymrwymiad i’w ethos a’i werthoedd;
- Dangos brwdfrydedd a medrusrwydd ym meysydd TGCh ac Addysg Gorfforol; gyda phwyslais ar weithgareddau chwaraeon allgyrsiol;
- Gyda’r gallu i arwain a datblygu’r meysydd hyn yn greadigol ac yn effeithiol;
- Ysbrydoli a chymell disgyblion o bob gallu i gyrraedd eu potensial llawn;
- Bod yn ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i ddilyn rhagoriaeth;
- Bod yn arloesol gyda’r sgiliau i gefnogi cydweithwyr i wreiddio cymhwysedd digidol a lles corfforol ar draws y cwricwlwm;
- Meddu ar y safonau a’r disgwyliadau uchaf posibl - ohonynt eu hunain a’r plant yn eu gofal;
- Bod yn aelod tîm cydweithredol gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
- Cymuned ysgol groesawgar a chefnogol;
- Cyfleoedd ar gyfer datblygiad arweinyddiaeth a chynnydd gyrfaol;
- Tîm staff cydweithredol ac arloesol;
- Disgyblion brwdfrydig sy’n falch o’u hysgol;
- Ymrwymiad cryf i les staff a datblygiad proffesiynol.
Os ydych yn cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, gwnewch gais am y swydd drwy eich cyfrif hunanwasanaeth cyflogai ac nid drwy'r ddolen uchod. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich cyfrif Hunanwasanaeth Gweithiwr, cysylltwch â thîm iTrent ar 01443 680760 neu itrentadmin@rctcbc.gov.uk
Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Mae amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb i'r ysgol a'r cyngor. yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y gwasanaeth datgelu a gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.