MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
£18,755 - £19,357
YN YSTOD Y TYMOR YSGOL YN UNIG, 38 WYTHNOS Y FLWYDDYN
32.5 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio am 1 ofalwr llawn cymhelliant, profiadol, brwdfrydig a hyblyg i ymuno â'r tîm goruchwylio a rheoli arlwyo er mwyn cynorthwyo'r cogyddion a'r cynorthwywyr arlwyo yng ngheginau ein hysgolion.
Mae'r dyletswyddau yn amrywiol ac yn cynnwys monitro'r ddarpariaeth gwasanaeth cinio a brecwast ar y safle, hyfforddi a mentora staff arlwyo, cynorthwyo gyda'r fwydlen a chynllunio digwyddiadau hyrwyddo a darparu cefnogaeth gyffredinol i'r rheolwyr a'r arolygwyr arlwyo. Byddai profiad a gwybodaeth o'r gwasanaeth prydau ysgol yn ddymunol.
Bydd deiliad y swydd yn hyrwyddo'r gwasanaeth prydau ysgol i amrywiaeth o bobl gan gynnwys plant, rhieni a phenaethiaid a bydd gofyn gweithio gyda'r nos o bryd i'w gilydd.
Dylai ymgeiswyr feddu ar sgiliau cyfathrebu cryf, sgiliau arlwyo ymarferol a sgiliau TGCh digonol.
Mae'r swydd yn ymofyn trwydded yrru lawn, a defnydd dyddiol o gerbyd personol deiliad y swydd, gydag yswiriant busnes.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.