MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Merthyr Tydfil,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £33,366.00 - I: £35,235.00
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog y Gymraeg mewn Addysg a'r Cwricwlwm Ehangach
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyflog: £33,366.00 - I: £35,235.00
Angen o: Gorffennaf 2025- cyn gynted â phosibl ar ôl hynnyMath o Gontract: Parhaol: Bydd secondiad yn cael ei ystyried yn dibynnu ar raddfa
Cyflog: Gradd 6 -
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 23 Mai 2025
Dyddiad y cyfweliad: Dydd Llun 9 Mehefin 2025
Mae Adran Ddysgu Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn chwilio am swyddog ymroddedig, brwdfrydig y Gymraeg mewn Addysg a'r cwricwlwm ehangach i gefnogi'r awdurdod i fwrw ymlaen â gwaith Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a'n cynnig cwricwlwm ehangach fel rhan o'r Strategaeth Codi Dyheadau, Codi Safonau ac amcanion Llesiant y Cyngor. Byddai'r rôl yn gofyn i chi ymgysylltu ag adrannau ledled yr Awdurdod Lleol, Ysgolion a gyda Phartneriaid Allanol i sefydlu a chynnal perthnasoedd, yn ogystal â nodi cyfleoedd i gefnogi'r Gymraeg o ran sgiliau athrawon a dysgwyr, yn ogystal â chyflwyno'r cwricwlwm. Bydd y rôl hefyd yn gofyn i chi ymgysylltu â phartneriaid rhanbarthol, yn ogystal â sefydliadau ehangach ar gyfer meysydd eraill o'r cwricwlwm sy'n rhan o bortffolio yr adrannau dysgu gan gynnwys Cerddoriaeth a'r ddarpariaeth SEREN.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Andrea May ar 01685 725000 neu ebostiwch Andrea.May@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 23.05.2025 i'r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo'n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.