MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil,
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,433.00 - I: £49,944.00
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes, Ysgol Gynradd Dowlais

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyflog: £32,433.00 - I: £49,944.00

Ysgol Gynradd Dowlais
Pennaeth: Mrs J Estebanez

ATHRO DOSBARTH DROS DRO

Dyddiad dechrau - Medi 2025 am 2 Dymor (Hydref 25 a Gwanwyn 26)

Mae Corff Llywodraethu'r ysgol hapus, llwyddiannus hon am benodi athro uchelgeisiol, brwdfrydig ac arloesol sydd yn meddu ar sgiliau rheoli ystafell ddosbarth a rhyngbersonol rhagorol. Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus:

? Fod yn angerddol am addysg a chael yr ymrwymiad a'r ymdrech i arwain maes cwricwlwm sy'n galluogi pob plentyn i lwyddo yn eu dysgu.

? Bod â gwybodaeth weithredol ardderchog o'r Cwricwlwm Cynradd a dealltwriaeth o "Cwricwlwm Cymru - Cwricwlwm am Oes."

? Bod yn ymarferydd dosbarth rhagorol sy'n ysbrydoli ac yn annog plant i gyrraedd eu potensial llawn trwy brofiadau dysgu o ansawdd uchel.

? Medddu ar allu i ysgogi, herio a chefnogi eraill.

? Dangos sgiliau cyfathrebu rhagorol i weithio'n effeithiol mewn partneriaeth â staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned leol.

? Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth ardderchog o ddatblygu sgiliau ac addysgeg.

? Meddu ar allu i ddefnyddio TGCh yn effeithiol i ddarparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel.

? Meddu ar allu i ddatblygu dwyieithrwydd (Cymraeg fel ail iaith).

? Meddu ar brofiad o asesu ar gyfer strategaethau dysgu.

? Meddu ar ymrwymiad i ddysgu proffesiynol

? Meddu ar allu i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yr ysgol.

? Meddu ar ddisgwyliadau uchel o gyflawniad ac ymrwymiad i godi safonau.

? Bod yn addasadwy, dyfeisgar ac arloesol.

Yn Ysgol Gynradd Dowlais rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol o ansawdd uchel a gallwn gynnig dysgwyr cyfeillgar, brwdfrydig a fydd yn herio'ch meddwl. Rydym yn gymuned hapus groesawgar o staff s'yn gweithio'n galed, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion sy'n frwdfrydig am brofiad addysgol o safon.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 23 Mai 2025

Cynhelir y rhestr fer ar: Dydd Llun 2 Mehefin 2025

Cynhelir arsylwadau'r gwersi: Dydd Llun 9 Mehefin 2025

Cynhelir cyfweliadau ar: Dydd Mawrth 10 Mehefin 2025

Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ymweld â'r ysgol trwy apwyntiad gyda'r Pennaeth a chyflwyno gwers i un o'n dosbarthiadau. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Judith Estebanez ar 01685 351808 neu e-bostiwch Judith.Estebanez@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir sydd yn hanfodol.

Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725000 a'u dychwelyd erbyn dydd Gwener 23 Mai fan bellaf i Weinyddiaeth Adnoddau Dynol, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN. E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae gallu i siarad y Gymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Cynhelir gwiriadau cyn-gyflogaeth trwyadl ar gyfer pob penodiad fel rhan o'n proses recriwtio a dethol.

Mae'n ofynnol i bob gweithiwr gydymffurfio â'u cyfrifoldebau unigol a sefydliadol o dan y Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth a pholisïau gweithredol ategol perthnasol. Ni ddylid datgelu unrhyw faterion o natur gyfrinachol na'u trosglwyddo i unrhyw bersonau anawdurdodedig neu drydydd parti o dan unrhyw amgylchiadau naill ai yn ystod neu ar ôl cyflogaeth ac eithrio yng nghwrs priodol eich cyflogaeth neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall unrhyw dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis, wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym wedi ymrwymo'n gryf i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a deth