MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Per annum
- Cyflog: £33,673 - £36,581 Pro Rata | Grade 6
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 20 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch - Ysgol Uwchradd Gatholig Alban Sant
Torfaen Local Authority
Cyflog: £33,673 - £36,581 Pro Rata | Grade 6
Cyfnod penodol am 1 flwyddyn32.5 awr yr wythnos (8:30am - 3:30pm | Dydd Llun i Ddydd Gwener)
39 wythnos y flwyddyn - Yn ystod y tymor yn unig
Rydym yn dymuno penodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 4 tosturiol, trefnus ac ymroddgar i ymuno â'n cymuned Gristnogol ofalgar. Mae hon yn rôl allweddol sy'n cefnogi disgyblion i gyflawni eu potensial llawn yn academaidd, yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn ysbrydol, gan sicrhau eu bod yn gallu ffynnu mewn amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhwysol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
- Sgiliau rhifedd a llythrennedd rhagorol, gyda chymwysterau sy'n gyfystyr â TGAU/NVQ Lefel 2 Saesneg a Mathemateg.
- Cymhwyster Lefel 4 perthnasol ee Cefnogi Addysgu a Dysgu, Addysg, Gofal Plant, neu brofiad cyfatebol.
- Sgiliau TG rhagorol a hyder wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd addysgol ac offer digidol.
- Y gallu i weithio'n adeiladol, yn hyblyg ac yn gydweithredol yn rhan o dîm, deall rolau a chyfrifoldebau ysgol a'u sefyllfa eu hunain o fewn y rhain.
- Y gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol a phroffesiynol gyda disgyblion, rhieni/gofalwyr a staff.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf.
- Deall pwysigrwydd diogelu a chyfrinachedd ac ymrwymiad i gynnal y ddau.
- Natur ddigynnwrf, amyneddgar, hawdd mynd atoch, a gwydn.
- Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ac anogir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu cefnogi disgyblion drwy gyfrwng y Gymraeg, neu sy'n fodlon datblygu eu sgiliau Cymraeg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu ein gweledigaeth, sef helpu pob plentyn i &slshquot; Fod y gorau y gallwn fod, gyda Christ wrth ein hochr a pharch, cyfrifoldeb a gwytnwch yn ein calonnau.&slshquot;
Gweler y pecyn ymgeiswyr am y swydd-ddisgrifiad llawn a manyleb person.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd wag hon, cysylltwch â Louise Penny, Rheolwr Busnes ar 01495 765800 neu anfonwch e-bost at louisepenny@stalbans.schoolsedu.org.uk
DYDDIAD CAU: Dydd Sul 20 Medi 2026
DYDDIAD TYNNU'R RHESTR FER: Dydd Mawrth 22 Medi 2026
DYDDIAD Y CYFWELIAD: Dydd Iau 24 Medi 2026
DYDDIAD CYCHWYN: Dyddiad i'w gadarnhau yn amodol ar wiriad DBS dilys
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.