MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Pendalar, Caernarfon,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: £40,476 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £40,476 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION ADDYSG ARBENNIG
YSGOL PENDALAR, CAERNARFON
(Arbennig 3 - 19: 115 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1 Medi, 2025 neu cyn gynted a sydd bosib.
ARBENIGWR DYSGU CADARNHAOL
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad perthnasol a'r rhinweddau penodol ar gyfer y swydd uchod.
Mi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan arweiniol o fewn yr ysgol mewn ymateb i anghenion disgyblion sydd angen cymorth arbennig i oresgyn rhwystrau i ddysgu. Bydd yr unigolyn yn defnyddio ymyriadau yn seiliedig ar Ddadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (Applied Behaviour Analysis) er mwyn dysgu a chynyddu ymddygiadau cymdeithasol priodol a lleihau ymddygiadau cymdeithasol amrhiodol.
Mae'r swydd ar gyfer unigolion sydd wedi ennill Gradd Meistr yn barod, mewn ' Applied Behaviour Analysis' .
Oriau gwaith: Llawn Amser (37 awr yr wythnos)
Graddfa Gyflog: PS1 29 - 31 (£38,626 - £40,476)
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn fanteisiol ond ddim yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth mewn gofal, Deiniol Harries M.Add. (Rhif Ffôn 01286 672141)
e-bost: deiniolharries@pendalar.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Sophie Eames, Swyddog Busnes, Ysgol Pendalar, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd (Rhif Ffôn: 01286 672141). Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU, 22 MAI, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Swydd Ddisgrifiad Arbenigwr Dysgu Cadarnhaol.pdf
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi