MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydgysylltydd Bwyd a Hwyl - Ysgol Gwynfryn

Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 1707

Sefydliad:

Ysgolion

Adran:

Ysgol Gynradd Gwynfryn

Nifer y swyddi gwag:

2

Math o gontract:

Achlysurol

Lleoliad:

Llanelli, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin

Gradd:

Gradd F

Cyfradd yr awr:

£14.36

Oriau Contract:

Achlysurol

Dewch i ymuno â'n tîm

Cydlynydd Bwyd a Hwyl

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Bwyd a Hwyl ymroddedig a chyfrifol i gynllunio a chydlynu Rhaglen Bwyd a Hwyl yn yr ysgol a rhedeg y rhaglen am o leiaf 12 diwrnod yn ystod gwyliau'r haf (efallai yr ystyrir rhannu swydd)

Bydd angen i chi:
  • Ymgymryd â hyfforddiant Sgiliau Maeth am Oes Lefel 2 Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol gan gynnwys 'Diwrnod Hwyluso Bwyd a Hwyl' cyn cyflwyno'r rhaglen.
  • Cyflwyno 6 sesiwn Sgiliau Maeth Bwyd a Hwyl am Oes yn ystod 12 diwrnod y rhaglen.
  • Datblygu a chydlynu Amserlen Gweithgareddau ar gyfer 12 diwrnod Gwyliau'r Haf.
  • Monitro a gwerthuso darpariaeth Bwyd a Hwyl a darparu'r holl wybodaeth berthnasol i swyddog arweiniol Bwyd a Hwyl yr Awdurdod Lleol yn unol â therfynau amser y cytunwyd arnynt.

Rydym angen rhywun sy'n gallu:
  • Cyfathrebu'n effeithiol gyda phlant, rhieni a gweithwyr proffesiynol
  • Addasu'n hyblyg i sefyllfaoedd sy'n codi.
  • Arddangos agwedd ddigynnwrf a meithringar
  • Gweithio fel rhan o dîm ac ar eich menter eich hun
  • Cefnogi ymagwedd ysgol gyfan at fwyta'n iach
  • Gweithio i derfynau amser allweddol

Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â: Aron Davies

Disgrifiad Swydd:

Food and Fun Co ordinator Welsh Schools Grade F.pdf - 187KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad:

5 Mehefin 2025

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 01/06/2025, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.