MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: £32,428 (Pro Rata) - £32,428 (Pro Rata)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £32,428 (Pro Rata) - £32,428 (Pro Rata)
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Ymarferydd Anfeiliaid
Lleoliad: Llaneurgain
Math o Gontract: Cyfnod Penodol (Mawrth 2026), Rhan Amser (0.6 CALl, 22.2 awr yr wythnos) Dechrau Awst 2025
Salary: £32,428 (Pro Rata £19,456.80)
Rydym yn chwilio am Ymarferydd Anifeiliaid ar gyfer ein safle Llaneurgain yng Ngholeg Cambria. Yn y swydd hon, byddwch yn cyflwyno sesiynau ymarferol i grwpiau o ddysgwyr, gan asesu eu cynnydd a darparu adborth. Byddwch hefyd yn asesu perfformiad ymarferol dysgwyr ac yn sicrhau cadw cofnodion yn gywir. Ynghyd â hyn, byddwch yn mynd i'r afael â gofynion gwybodaeth alwedigaethol, yn integreiddio pynciau allweddol, ac yn cyfrannu at adolygiadau dysgwyr a chanlyniadau cyrsiau.
Fel Ymarferydd Anifeiliaid, byddwch yn gofalu am yr anifeiliaid yn ein hadran, yn cynnal eu hiechyd a'u lles, ac yn creu amgylchedd dysgu cefnogol. Byddwch yn cadw at bolisïau'r Coleg, yn mynychu digwyddiadau marchnata, ac yn darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid. Efallai y bydd angen gwaith achlysurol gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Dylech feddu ar gymwysterau a phrofiad perthnasol mewn gofal anifeiliaid. Mae sgiliau cyfathrebu cryf ac ymrwymiad i gyfle cyfartal, iechyd a diogelwch, ac ansawdd yn hanfodol. Ymunwch â ni a gwnewch wahaniaeth ym mywydau gweithwyr proffesiynol gofal anifeiliaid uchelgeisiol!
Gofynion Mynediad
- Cymwysterau Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) Gradd 4 (C) neu uwch
- Cymhwyster Lefel 4 neu gyfwerth mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu gymhwyster arall sy'n berthnasol yn broffesiynol
- Profiad diwydiannol perthnasol diweddar mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu sector arall sy'n berthnasol yn broffesiynol
- Dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau presennol yn eich maes arbenigol eich hun a ffyrdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o'r fath
- Gallu gweithio fel rhan o dîm ehnagach, a bod yn hyblyg ac yn barod i addasu pan fo angen
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig