MANYLION
  • Lleoliad: Ystrad Mynach,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £24,360.00
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Clerc Mewnbynnu Data Dros Dro yn yr Haf

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: £24,360.00

Clerc Mewnbynnu Data Dros Dro yn yr Haf
Swydd ddisgrifiad

Am y rôl:

Rydyn nin chwilio am Glerc Mewnbynnu Data Dros Dro ar gyfer yr Haf sy'n fanwl gywir ac effeithlon. Yn y rôl hon, byddwch gyfrifol am fewnbynnu a gwirio data yn gywir, trefnu ffeiliau, a chynhyrchu adroddiadau. Hefyd, byddwch chi’n cynorthwyo gyda rheoli ansawdd, a rheoli cronfeydd data. Mae sgiliau cyfathrebu cryf yn hanfodol gan y byddwch yn cydweithio ag aelodau'r tîm i sicrhau cywirdeb a chyflawnrwydd data. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn cynnal cyfrinachedd, yn rheoli amser yn effeithiol i gwrdd â therfynau amser, ac yn darparu cefnogaeth weinyddol yn ôl yr angen. Dyma gyfle gwych i ennill profiad gwerthfawr mewn amgylchedd gwaith deinamig.

Gwybodaeth Bellach:

Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.

Canllawiau Cais:

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

Cyswllt:

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk