MANYLION
  • Lleoliad: Bryncethin Primary School,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: £2,812 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwy-ydd Goruchwyliaeth (Dros Dro)- Ysgol Gynradd Bryncethin

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £2,812 y flwyddyn

Cynorthwy-ydd Goruchwyliaeth (Dros Dro)- Ysgol Gynradd Bryncethin
Disgrifiad swydd
5 awr yr wythnos

Dros dro hyd at Fawrth 2026

Mae Ysgol Gynradd Bryncethin yn ceisio penodi Cynorthwyydd Goruchwylio i weithio yn ystod amser cinio bob dydd, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.

Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 21 Mai 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 2 Mehefin 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 9 Mehefin 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person