MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Prif Gogydd - Ysgol Llan-y-pwll

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Llan-y-pwll

Parhaol

G04 - £11,182 - £11,359 y flwyddyn

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG

20 awr yr wythnos

Mae angen cogydd cymwys i reoli'r gwaith arlwyo yn yr ysgol gynradd hon. Ceir y posibilrwydd o ddatblygu'r gwasanaeth a bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan weithredol yn hyn o beth.

Bydd prif ddyletswyddau'r swydd uchod yn cynnwys:-1. Rheoli'r gwasanaeth o fewn y cyllidebau a ddyrennir i dalu am gostau bwyd a

llafur.2. Dyletswyddau coginio medrus a dealltwriaeth o arferion coginio iachus.3. Goruchwylio gweithwyr eraill, gan gynnwys rhannu dyletswyddau, gosod rota

gwaith a hyfforddiant.4. Goruchwylio'r gwasanaeth bwyd, rheoli dognau a chyflwyno bwyd.5. Dyletswyddau clercol cysylltiedig.6. Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.7. Hyrwyddo'r gwasanaeth bwyd i gwsmeriaid.8. Gweithredu system gyfrifiadurol gweinyddu prydau ysgol

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.