MANYLION
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,742 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Lles Addysg

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £30,742 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Mae'r Gwasanaeth lles Addysg yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig i ymuno ar tîm i gefnogi unigolion i oresgyn rhwystrau absenoldebau a chyflawni eu llawn potensial.

Mae'r gwaith yn benodol o dargedu unigolion sydd a phresenoldeb isel ac yn amlygu fel risg uchel o ddatgysylltu a'i haddysg.

Bydd deilydd y swydd yn derbyn llwyth achosion ac yn gweithio yn benodol o fewn Ynys Môn

Swydd dros dro yw hon hyd at 31/07/26 yn y lle cyntaf .

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Ellen Rowlands, Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiad: Gwasanaeth ADYaCH (Addysg) ar (01286) 679007

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 20/05/2025

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
• Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig

• Person egnïol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel

• Sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf

• Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol

• Dymuniad i ddatblygu'n broffesiynol

• Un sy'n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo'r angen, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol

• Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm

• Y gallu i weithio a chymysgu'n hawdd â phobl gan ddeilio â phobl yn hyderus, pwyllog a chwrtais

• Agwedd hyblyg gyda'r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
• Graddedig neu gyda chymhwyster cyfatebol

• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus

• Sgiliau ieithyddol a chyflwyno gwybodaeth a chyfathrebu da
Dymunol
-
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o:

• Weithio yn y maes addysg

• Lunio adroddiadau a dadansoddi gwybodaeth

• Gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill

• Sicrhau ymddygiad priodol

• Gydweithio fel aelod o dîm
Dymunol
• Profiad o weithio gyda grwpiau bregus o blant a phobl ifanc
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion ym maes / gweithdrefnau Diogelu Plant

• Gwybodaeth a dealltwriaeth o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru

• Person egnïol gyda'r gallu i gyflawni strategaethau effeithiol ar gyfer gwelliant

• Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn

• Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Ymarfer

• Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn

• Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
Dymunol
• Y gallu i gyfranu at lwyddiant a gwelliant Grwpiau Bregus
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

• Cyfrannu tuag at yr agenda o wella presenoldeb disgyblion ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn.

• Gweithredu prosesau cyfreithiol mewn perthynas â:

• Rhybuddion Cosb Benodol (Addysg).

• Paratoi achosion i'w herlyn yn y llysoedd.

• Gorchmynion Goruchwyliaeth Addysgol

• Gorchmynion Mynychu Ysgol

• Cynorthwyo efo'r broses o weithredu'r broses sy'n gysylltiedig â materion cyflogaeth plant
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Gliniadur a ffôn symudol
Prif ddyletswyddau
PRESENOLDEB

• Cydweithio ag ysgolion i fonitro presenoldeb yn ysgolion eu hardal, a gweithredu'n briodol yn dilyn cyfeiriadau.

• Llunio a gweithredu amrywiol strategaethau effeithiol i leihau absenoldebau.

• Paratoi a chyflwyno achosion i'r Llys pan erlynir rhieni (Deddf Addysg 1996).

• Sicrhau fod y drefn o gyflwyno Rhybuddion Cosb Benodol yn cael ei ddilyn yn unol â'r canllawiau cenedlaethol.

• Gweinyddu Gorchmynion Goruchwyliaeth Addysgol yn unol â gofynion Deddf Plant 1989.

• Paratoi adroddiadau tymhorol ar bresenoldeb a thriwantiaeth mewn ymgynghoriad ag Ysgolion ar gyfer Cyrff Llywodraethwyr.

AMDDIFFYN PLANT

• Gweithredu yn unol â gofynion Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.

• Cynrychioli'r Awdurdod Addysg ar unrhyw bwyllgor rhyng asiantaethol perthnasol os yn berthnasol.

• Cynrychioli'r Awdurdod Addysg mewn cyfarfodydd strategaeth i drafod achosion unigol os yn berthnasol.

• Cynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig ar gyfer cyfarfodydd rhyng asiantaethol neu gyfarfodydd strategaeth.

• Gweithredu fel pwynt cyswllt mewn perthynas â'r maes a chynnig arweiniad i'r Ysgol.

PROSESAU ASESU DEDDF ADDYSG 1996 (Anghenion Addysgol Arbennig)

• Darparu tystiolaeth i ysgolion a'r Awdurdod Addysg.

GWAHARDDIADAU

• Bod ynglŷn â strategaeth atalion yn y maes.

• Darparu adroddiadau i'r Corff Llywodraethol.

• Sicrhau fod disgyblion a waherddir yn barhaol yn derbyn addysg o fewn yr hualau amser cenedlaethol.

CYFLOGAETH PLANT

• Sicrhau y cydymffurfir a'r Is-Ddeddfau.

• Codi ymwybyddiaeth cyflogwyr o'r Is-Ddeddfau perthnasol.

• Erlyn cyflogwyr a darganfyddir yn cyflogi plant yn groes i'r Is-Ddeddfau perthnasol.

• Prosesu ceisiadau cyflogaeth plant.

• Ymweld â chyflogwyr yn achlysurol o sicrhau fod y lleoliadau gwaith yn addas.

• O fewn canllawiau pendant cynnal Asesiadau Risg ar gyfer lleoliadau profiad gwaith Blwyddyn 10 lle'n briodol.

ADDYSG GARTREF DEWISIOL

• Hysbysu Pennaeth y Gwasanaeth Ysgolion ynglŷn â theuluoedd sy'n dewis addysgu eu plant gartref.

• Ymweld â chartrefi, ar gais Pennaeth y Gwasanaeth Ysgolion i fonitro sefyllfaoedd.

MATERION LLES CYFFREDINOL - MEGIS BWLIO, CYFFURIAU, ATAL TROSEDDAU.

• Bod ynglŷn â'r maes mewn ymgynghoriad ag asiantaethau eraill.

• Darparu cyngor i ysgolion, rhieni a disgyblion.

• Cynhyrchu a chyflwyno adnoddau cyfredol i addysgu plant, rhieni ac ysgolion.

• Cyfrannu i nifer o weithgareddau hybu lles.

CYSYLLTIADAU AG ASIANTAETHAU ERAILL

• Sefydlu a chynnal cysylltiadau effeithiol ag asiantaethau eraill sy'n weithredol yn y maes lles, e.e. Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, Y Gwasanaethau Iechyd, yr Heddlu a.y.b.

• Ymateb yn briodol i gais o feddiant asiantaeth arall am wybodaeth ynglŷn â disgyblion.

GORFODAETH

• Gweinyddu'r broses Rhybuddion Cosb Benodol gan sicrhau gweithredoedd mewn achosion o beidio'u talu.

• Darparu cyngor i reolwyr ysgolion mewn perthynas â materion gorfodaeth.

• Cadw cofnodion achos priodol, manwl a chyfredol, a data ystadegol yn ôl yr angen.

DARPARU CYNGOR

• Gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer darparu cyngor i'r ysgol.

• Gweithredu fel pwynt cyswllt i rieni a disgyblion.

MYNEDIAD/CLUDIANT

• Cynghori'r Adran Cludiant pan fo agweddau lles yn ystyriaeth.

YMWELIADAU CARTREF

• Ymweld â chartrefi disgyblion er mwyn canfod ffordd i wella canran presenoldeb.

• Ymweld â chartrefi i drafod agweddau o les y disgybl all fod yn achosi pryder i' Sicrhau cyswllt cryf rhwng ysgol a chartref.



CYFFREDINOL

• Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• -

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi