MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Blank
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Blank
Athro/Athrawes Gwyddoniaeth (Ysgol Bro Caereinion)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r dyddiad cau ar gyfer y rôl wedi cael ei ymestyn, dyma'r dyddiadau newydd -
Dyddiad cau: 29/06/2025
Dyddiad creu rhestr fer: 30/06/2025
Cyfweliadau: 07/07/2025
SWYDD Athro - Gwyddoniaeth
Llawn-amser neu Rhan-amser
Yn eisiau ar gyfer Medi 1af, 2025
Nifer y disgyblion: ~ 491
Mae'r Corff Llywodraethol am benodi person uchelgeisiol, deinamig a gweledigaethol yn athro/athrawes Gwyddoniaeth i ymuno â'r ysgol. P'un a ydych chi'n chwilio am swydd amser llawn neu rhan-amser, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymarferwyr brwdfrydig a medrus. Mae'r ysgol hon yn nhref farchnad Llanfair Caereinion, mewn ardal wledig hardd o'r Canolbarth, wyth milltir o'r Trallwng ac o fewn taith awr o Aberystwyth.
Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion 'yn gymuned ysgol groesawgar lle caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau'r ysgol. Maent yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u
dysgu'. I ddarllen yr adroddiad yn llawn cliciwch ar y ddolen hon: Adroddiad arolygiad Ysgol Bro Caereinion 2024
Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Dysgu Gwyddoniaeth amser-llawn neu rhan amser ble mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddelfrydol.
I wneud cais am y rôl, ewch i www.powys.gov.uk neu e-bostiwch recruitment@powys.gov.uk