MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,404 X 59.35%
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £24,404 X 59.35%
Caretaker (Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail)Disgrifiad Swydd
YSGOL GYNRADD GYMRAEG TONYREFAIL
Martin Crescent, Tonyrefail. CF39 8NT
Rhif Ffôn: 01443 670319
E-Bost: admin@yggtonyrefail.rctcbc.cymru
GOFALWR / GOFALWRAIG
Oriau Gwaith: 25 Awr Yr Wythnos (Amser Tymor)
Graddfa: Graddfa 3 - £24,404 X 59.35%
Cytundeb: Parhaol
I ddechrau yn y swydd cyn gynted â bo modd
Mae Bwrdd Llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail yn dymuno apwyntio person didwyll, dibynadwy a brwdfrydig i ymuno â staff yr ysgol hon.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymeryd â dyletswyddau porthorol / gofalwr, gwaith atgyweirio cyffredinol / addurno a gwaith cynnal a chadw. Mae dyletswyddau glanhau yn rhan o’r swydd.
Dylai’r ymgeiswyr fod yn frwdfrydig a blaengar gan ddangos hyblygrwydd tuag at y dyletswyddau sydd ynghlwm i ofynion y swydd a’r gwaith sydd angen ei gyflawni yn yr ysgol.
Buasai dealltwriaeth o’r iaith Gymraeg yn ddymunol.
Am wybodaeth ychwanegol neu sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â’r Pennaeth, Miss N.Downes ar (01443) 670319.
Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion:
https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?USESSION=C0A604064EDDAA8962C0EFC1412CCE2F&WVID=2482495vvA&LANG=CYM
Os ydych yn cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, gwnewch gais am y swydd drwy eich cyfrif hunanwasanaeth cyflogai ac nid drwy'r ddolen uchod. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich cyfrif Hunanwasanaeth Gweithiwr, cysylltwch â thîm iTrent ar 01443 680760 neu itrentadmin@rctcbc.gov.uk
Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Miss Nia Downes am fwy wybodaeth ac i ymweld â’r ysgol (01443 486813)
Dyddiad cau: Dydd Gwener, Mai 23 ain , 2025 am hanner nos.
Mae amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb i'r ysgol a'r cyngor. yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y gwasanaeth datgelu a gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.