MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL Y GRANGO

Allt TÅ• Gwyn

Rhos

Wrecsam

LL14 1EL

Ffôn: 01978 833010

Ebost: info@grango.co.uk

Pennaeth: Ms V Brown BA Anrh, CPCP

Athro Technoleg Celf a Dylunio (Bwyd a Maeth)

(PRG/GGU)

11-16 Ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg

Nifer ar y Gofrestr 580

Ar gyfer mis Medi 2025

Rydym yn chwilio am athro hynod gymhellol a chreadigol i fod yn rhan o'n hadran celf a thechnoleg dylunio wych. Mae angen rhywun sy'n gallu addysgu bwyd a maeth yn ogystal â thechnoleg dylunio ar draws CA3 a CA4. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos y sgiliau, y weledigaeth a'r brwdfrydedd i ysbrydoli disgyblion i gyflawni eu gorau.

Mae Ysgol y Grango yn ysgol ffyniannus a phoblogaidd sy'n gwasanaethu pentrefi Rhosllannerchruchog, Ponciau, Johnstown a Pen-y-cae. Mae safonau ymddygiad yn uchel, mae'r staff yn wych ac mae rhieni'n cymryd rhan weithredol ac yn gefnogol iawn.

Mae pecyn cais ar gyfer y swydd ar gael yn: info@grango.co.uk, trwy ei lawrlwytho o'r dolenni isod neu o wefan yr ysgol: www.grango.co.uk

DYCHWELWCH YR HOLL FFURFLENNI CAIS WEDI'U LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT

REOLWR BUSNES YR YSGOL YN YR YSGOL

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.