MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,304 - £49,934
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Peirianneg Gweithgynhyrchu CC/2747

Coleg Cambria

Cyflog: £32,304 - £49,934

Disgrifiad Swydd

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Peirianneg Gweithgynhyrchu

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Llawn amser, parhaol

Cyflog: £32,304 - £49,934

Ydych chi'n beiriannydd profiadol yn eich maes gydag enw da am ansawdd a rhagoriaeth?

Beth am ddefnyddio eich profiad i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf? Dechreuwch eich taith mewn addysg heddiw.

Os ydych chi'n meddwl fod gennych chi'r sgiliau peirianneg ond nid y profiad addysgu, yna gadewch i ni eich helpu i ennill y cymwysterau addysgu angenrheidiol wrth rannu eich gwybodaeth a'ch profiad.

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag darlithydd yn yr adran Peirianneg Uwch i weithio yn ein cyfleuster peirianneg o'r radd flaenaf lle gall ein myfyrwyr ddysgu mewn ystafelloedd dosbarth a gweithdai. Gan ddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu, byddwch yn perfformio addysgu wedi'i amserlennu, yn paratoi deunyddiau dysgu, yn marcio gwaith myfyrwyr, yn cysylltu â chyrff dyfarnu ac yn goruchwylio arholiadau yn ôl yr angen, ac yn darparu arweiniad addysgol, cymorth a chwnsela i bob myfyriwr. Byddwch yn aelod ymroddedig o dîm sy'n gallu sefydlu perthnasoedd gwaith effeithiol a byddwch yn cysylltu â thiwtoriaid o feysydd busnes eraill o ran adnoddau, datblygu'r cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill, a chwblhau a chynhyrchu dogfennaeth megis cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cwrs, dogfennaeth dadansoddi cyrsiau ac adroddiadau myfyrwyr.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd gyda chymhwyster Lefel 5 o leiaf mewn Peirianneg Fecanyddol neu Drydanol gyda gwybodaeth a sgiliau i addysgu ystod o unedau craidd ac unedau peirianneg arbenigol o lefel 3 i lefel 5, gan gynnwys; egwyddorion mecanyddol a/neu drydanol, peirianneg mathemateg a gwyddoniaeth beirianneg. Byddwch yn gallu rhannu eich sgiliau a'ch gwybodaeth am y diwydiant â grwpiau eang o brentisiaid a dysgwyr llawn amser Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Bydd gennych awydd i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus gan gynnwys dysgu sgiliau newydd ym maes peirianneg i gefnogi datblygiad addysgu a dysgu ar draws yr adran, yn ogystal â bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant.

Gofynion Hanfodol

• Cymhwyster Lefel 5 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol

• Cymhwyster addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407), neu'n fodlon gweithi tuag at hynny

• Gallu nodi, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i'w harfer

• Dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a ffyrdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o'r fath

• Nodi a gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o'u cryfderau ac anghenion datblygu

• Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu a pharatoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol

• Creadigol, arloesol a llawn dychymyg gyda'r gallu i addasu i amgylchiadau newidiol a syniadau newydd

Os hoffech chi drafod unrhyw agweddau ar y swydd cyn gwneud cais neu gael trafodaeth anffurfiol, mae pob croeso i chi anfon e-bost at recruitment@cambria.ac.uk.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch chi'n gwneud cais amdani ac os ydych chi'n llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer caiff swyddi eu hysbysebu gydag ystod gyflog. Os cynigir swydd i chi yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried i benderfynu ar eich cyflog cychwynnol.

Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn ni'n cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai