MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Tâl Addysgu ynghyd â Lwfans ADY.
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 08 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Tâl Addysgu ynghyd â Lwfans ADY.
Athro (ADY) Ysgol Gynradd CwmamanDisgrifiad Swydd
Gwasanaeth Cynnal Dysgu Rhondda Cynon Taf
Athro disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig o fewn Dosbarth Arsylwi ac Asesu Cynnal Dysgu yn y Blynyddoedd Cynnar seiliedig ar Ysgol Gynradd Cwmaman
Graddfa Tâl Addysgu ynghyd â Lwfans ADY.
Bydd deiliad y swydd yn dechrau fis Medi 2025.
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys yn briodol ar gyfer swydd athro ADY yn y Dosbarthiadau Cynnal Dysgu newydd ar gyfer disgyblion y blynyddoedd cynnar ag anghenion dysgu cymhleth sy’n agor ym mis Medi 2025.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus brofiad o weithio gyda phlant yn y blynyddoedd cynnar/cyfnod sylfaen ac sydd ag anghenion dysgu cymhleth.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Karen Pearson, Gwasanaeth Cynnal Dysgu yng Nghanolfan Menter y Cymoedd (01443) 744357.
Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio’r ddolen: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM
Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol nos ar 08 Mai 2025.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymrwymo i roi'r un cyfle i bawb yn ddiwahân. Felly, mae croeso i bobl ymgeisio o bob rhan o’r gymdeithas. Rydyn ni'n gweithredu Polisi Rhannu Swyddi a Chynllun Cymraeg cydnabyddedig.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.