MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Athro Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Athro Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA
Athro (Anghenion Dysgu Cymhleth) Ysgol Gyfun AberpennarDisgrifiad Swydd
Swydd Athro/Athrawes Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 3/4 (Anghenion Dysgu Cymhleth) wedi'i lleoli yn Ysgol Gyfun Aberpennar
Athro Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA [£2728]
Dyddiad dechrau: 1 Medi 2025
Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi athro â chymwysterau a phrofiad priodol ar gyfer y Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth ar gyfer mis Medi 2025.
Mae hyn yn gyfle cyffrous i weithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth yng nghyd-destun ysgol brif ffrwd. Bydd y dosbarth yn cynnal oddeutu 14 disgybl o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11, a chaiff ei staffio gan athro a dau Gynorthwyydd Cymorth Dysgu.
Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth a bydd e/hi wedi ymgymryd â datblygiad proffesiynol arbenigol. Bydd disgwyl i ymgeisydd llwyddiannus sydd ddim wedi derbyn hyfforddiant arbenigol gwblhau hyfforddiant arbenigol priodol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Helen Jenkins yn y Gwasanaeth Cynnal Dysgu, Canolfan Menter y Cymoedd, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ neu ffoniwch 01443 744333.
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: Mai 9 2024 am 12:00 y.p
Os ydych yn cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, gwnewch gais am y swydd drwy eich cyfrif hunanwasanaeth cyflogai ac nid drwy'r ddolen uchod. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich cyfrif Hunanwasanaeth Gweithiwr, cysylltwch â thîm iTrent ar 01443 680760 neu itrentadmin@rctcbc.gov.uk
Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Mae amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb i'r ysgol a'r cyngor. yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y gwasanaeth datgelu a gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.