MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: MPS
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 15 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro / Athrawes CA2 Ffrwd Gymraeg (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: MPS
Athro / Athrawes CA2 Ffrwd Gymraeg (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
Athro / Athrawes CA2 Ffrwd Gymraeg
Rhan-amser (0.4 F.T.E.) a pharhaol
Yn dechrau 1 Medi 2025
Mae Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt yn ysgol gynradd ddwy ffrwd ar gyfer plant 4-11 oed. Mae rhai o'n plant yn dysgu yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg a rhai yn bennaf trwy gyfrwng y Saesneg. Er ein bod yn ysgol dwy ffrwd, rydym yn un ysgol ac yn falch bob dysgwr yn cael eu hannog i uniaethu
fel dinasyddion Cymru a'r byd ehangach. O fewn adeilad yr ysgol, mae gennym wyth ystafell ddosbarth, pedair ym mhob ffrwd. Mae'r ysgol hefyd yn cynnal Dosbarth Cymorth Dysgu Ardal ar ran yr Awdurdod Lleol, grŵp cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg, Cylch yn yr Ysgol, a grŵp rhieni a phlant bach
dwyieithog Ti a Fi. Rydym yn chwilio am athro rhan-amser i blant 7-11 oed yn ein ffrwd Gymraeg i ddechrau ym mis Medi 2025. Rydym yn chwilio am unigolyn ymroddedig sydd:
1. yn athro galluog, medrus sy'n gyfarwydd â Chwricwlwm Cymru
2. gyda chymhelliant uchel ac yn gallu ffurfio perthynas ardderchog â phlant.
3. yn garedig, gofalgar ac yn cydymdeimlo ag anghenion unigol plant.
4. gyda disgwyliadau uchel o ddysgu ac ymddygiad.
5. yn gweithio'n dda fel rhan o dîm.
Gallwn gynnig i chi:
1. y cyfle i ddod yn aelod gwerthfawr o'n tîm ysgol.
2. cefnogaeth gan uwch arweinwyr yr ysgol, staff addysgu a llywodraethwyr.
3. disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig.
4. amgylchedd dysgu sydd ag adnoddau da.
5. partneriaeth gref gyda rhieni a rhanddeiliaid eraill.
6. hyfforddiant penodol ar gyfer y swydd yn ogystal â chyfleoedd rheolaidd ar gyfer dysgu a datblygiad proffesiynol.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gynnal gwiriad datgelu a gwahardd.
Gellir trefnu ymweliadau â'r ysgol drwy gysylltu â swyddfa'r ysgol ar (01982) 553600 neu drwy e bostio office@builth.powys.sch.uk
Dyddiad Cau: 15/5/2025
Creu rhestr fer: 16/5/2025
Cyfweliad: 23/5/2025