MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Blank
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes Ffrwd Gymraeg (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Blank

Athro / Athrawes Ffrwd Gymraeg (Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt)
Swydd-ddisgrifiad
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol

Athro / Athrawes Ffrwd Gymraeg

Llawn-amser a pharhaol

Yn dechrau 1 Medi 2025

Mae Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt yn ysgol gynradd ddwy ffrwd ar gyfer plant 4-11 oed. Mae rhai o'n plant yn dysgu yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg a rhai yn bennaf trwy gyfrwng y Saesneg. Er ein bod yn ysgol dwy ffrwd, rydym yn un ysgol ac yn falch bob dysgwr yn cael eu hannog i uniaethu fel dinasyddion Cymru a'r byd ehangach. O fewn adeilad yr ysgol, mae gennym wyth ystafell ddosbarth, pedair ym mhob ffrwd. Mae'r ysgol hefyd yn cynnal Dosbarth Cymorth Dysgu Ardal ar ran yr Awdurdod Lleol, grŵp cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg, Cylch yn yr Ysgol, a grŵp rhieni a phlant bach dwyieithog Ti a Fi.

Rydym yn chwilio am athro/athrawes dosbarth sylfaen llawn-amser i ddysgu yn ein ffrwd Gymraeg, i ddechrau ym mis Medi 2025. Rydym yn chwilio am unigolyn ymroddedig sydd:

  • yn athro galluog, medrus sy'n gyfarwydd â Chwricwlwm Cymru
  • gyda chymhelliant uchel ac yn gallu ffurfio perthynas ardderchog â phlant.
  • yn garedig, gofalgar ac yn cydymdeimlo ag anghenion unigol plant.
  • gyda disgwyliadau uchel o ddysgu ac ymddygiad.
  • yn gweithio'n dda fel rhan o dîm.

  • Gallwn gynnig i chi:
  • y cyfle i ddod yn aelod gwerthfawr o'n tîm ysgol.
  • cefnogaeth gan uwch arweinwyr yr ysgol, staff addysgu a llywodraethwyr.
  • disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig.
  • amgylchedd dysgu sydd ag adnoddau da.
  • partneriaeth gref gyda rhieni a rhanddeiliaid eraill.
  • hyfforddiant penodol ar gyfer y swydd yn ogystal â chyfleoedd rheolaidd ar gyfer dysgu a datblygiad proffesiynol.

  • Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gynnal gwiriad datgelu a gwahardd.

    Gellir trefnu ymweliadau â'r ysgol drwy gysylltu â swyddfa'r ysgol ar (01982) 553600 neu drwy e-bostio office@builth.powys.sch.uk