MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: 27,269 + 1491 x 77.15%
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthy-ydd Cynnal Dysgu (Wedi'i ariennu'n ganolog) Ysgol Gynradd Hirwaun
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: 27,269 + 1491 x 77.15%
Cynorthy-ydd Cynnal Dysgu (Wedi'i ariennu'n ganolog) Ysgol Gynradd HirwaunDisgrifiad Swydd
Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu
Dosbarth Cynnal Dysgu Cyfnod Sylfaen ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Hirwaun
32.5 awr yr wythnos, parhaol (tymor yr ysgol)
Graddfa Gyflog: Gradd 6 pro rata (ynghyd â Lwfans Dosbarth Arbennig)
Dyddiad dechrau: 1 Medi 2025
Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Cynnal Dysgu ar gyfer y Dosbarth Cynnal Dysgu newydd yn Ysgol Gynradd Hirwaun. Bydd y swydd yn cynnwys cynorthwyo'r athro/athrawes ddosbarth i weithredu rhaglenni unigol, a bod yn gefn i'r disgyblion yn eu dosbarthiadau nhw ac mewn dosbarthiadau prif ffrwd.
Os ydych chi'n angerddol am ddysgu a lles plant ac eisiau eu helpu nhw i ffynnu a llwyddo; yn unigolyn sy'n cael ei arwain gan werthoedd gyda disgwyliadau uchel o gyflawniad am eich hun ac eraill; yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a gwrando ardderchog ac yn gweithio'n dda yn rhan o dîm sy'n fodlon cymryd rhan ym mywyd llawn yr ysgol, yna bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Rachel Williams:
Rachel.Williams3@rctcbc.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Mai 2025 a 12 pm
Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion:
https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?USESSION=C0A604064EDDAA8962C0EFC1412CCE2F&WVID=2482495vvA&LANG=CYM
Os ydych yn cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, gwnewch gais am y swydd drwy eich cyfrif hunanwasanaeth cyflogai ac nid drwy'r ddolen uchod. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich cyfrif Hunanwasanaeth Gweithiwr, cysylltwch â thîm iTrent ar 01443 680760 neu itrentadmin@rctcbc.gov.uk
Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Mae amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb i'r ysgol a'r cyngor. yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y gwasanaeth datgelu a gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.