MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Athro Raddfa Gyflog ynghyd a Lwfans AAA (£2728)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro (Anhwylder y Sbectrwm Awtistig) yn Ysgol Gynradd Hirwaun
Rhondda Cynon Taf
Cyflog: Athro Raddfa Gyflog ynghyd a Lwfans AAA (£2728)
Athro (Anhwylder y Sbectrwm Awtistig) yn Ysgol Gynradd HirwaunDisgrifiad Swydd
Athro Dosbarth Cynnal Dysgu y Cyfnod Sylfaen (Anhwylder y Sbectrwm Awtistig)
wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Hirwaun
32.5 awr yr wythnos, parhaol
Athro Raddfa Gyflog ynghyd â Lwfans AAA (£2728)
Dyddiad dechrau: 1 Medi 2025
Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf eisiau penodi athro dosbarth rhagorol a llawn cymhelliant ac ymroddiad i weithio yn y Dosbarth Cynnal Dysgu newydd ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Hirwaun.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd profiadol ac egnïol sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth o ystod o strategaethau addysgu, dysgu, asesu a rheoli ymddygiad a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion ag awtistiaeth.
Ydych chi'n berson arloesol, brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymrwymiad? Oes gyda chi dystiolaeth gadarn o'r gallu i weithio ar y cyd yn rhan o garfan? Pe gallech chi wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad ein disgyblion, hoffen ni glywed gennych chi.
Os ydych yn cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, gwnewch gais am y swydd drwy eich cyfrif hunanwasanaeth cyflogai ac nid drwy'r ddolen uchod. Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich cyfrif Hunanwasanaeth Gweithiwr, cysylltwch â thîm iTrent ar 01443 680760 neu itrentadmin@rctcbc.gov.uk
Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.
Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: Rachel.williams3@rctcbc.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 9 Mai 2025 (canol dydd).
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.