MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Prif Raddfa
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Prif Raddfa
(Cyfnod Sylfaen) Athro Dosbarth (Ysgol Calon y Dderwen)Swydd-ddisgrifiad
Ysgol Calon y Dderwen
Lôn Parc, y Drenewydd, Powys. SY16 1EG
01686 626143
E-bost: office@calonydderwen.powys.sch.uk
(Cyfnod Sylfaen) Athro Dosbarth
Llawn Amser; Cyfnod Penodol tan 27 Mawrth 2026
Ei angen ar gyfer 1 Medi 2025
Nifer ar y gofrestr: 251
Mae Ysgol Calon y Dderwen yn Ysgol Gynradd Gymunedol newydd Cyfrwng
Saesneg sydd wedi'i lleoli yn nhref farchnad hardd y Drenewydd yn y Canolbarth ar lan yr Afon Hafren.
Mae'r Corff Llywodraethol am benodi ymarferydd brwdfrydig a rhagorol i ymuno â'n tîm yn ystod y cam cyffrous hwn o daith ein hysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn llawn cymhelliant ac yn gallu ffurfio
perthnasoedd rhagorol gyda phlant, gan weithio mewn partneriaeth ag Uwch
Reolwyr a chydweithwyr. Hefyd, bydd ganddynt safonau uchel o etheg gwaith o ran cymhelliant, ymddangosiad, prydlondeb, safonau proffesiynol a gwaith tîm a gyda synnwyr digrifwch cadarnhaol.
Bydd ein haelod o staff addysgu newydd yn:
• meddu ar wybodaeth ymarferol ardderchog o'r Cwricwlwm newydd
• bod yn ymarferydd dosbarth rhagorol sy'n ysbrydoli ac yn annog plant i
gyrraedd eu llawn botensial trwy brofiadau dysgu o ansawdd uchel
• yn meddu ar y brwdfrydedd, yr egni a'r gallu i ysgogi, herio a chefnogi eraill
• gallu dangos sgiliau cyfathrebu rhagorol i weithio'n effeithiol mewn
partneriaeth â staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned leol
• meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth ragorol o ddatblygu sgiliau ac
addysgeg o oedran cynnar
• â disgwyliadau uchel o ran cyflawniad ac ymrwymiad i godi safonau
• yn meddu ar y brwdfrydedd i ddatblygu dwyieithrwydd (Cymraeg fel Ail Iaith)
yn ogystal ag egni tuag at yr iaith ac awydd i'w hyrwyddo
• dangos gallu i gydweithio fel aelod effeithiol o dîm
• bod yn hyblyg, yn ddyfeisgar ac yn arloesol, yn gallu addasu i'r byd addysg
sy'n newid.
Mae croeso mawr i ymgeiswyr gysylltu â'r Pennaeth Mr Carl Hyde yn yr ysgol i
drefnu ymweliad.
Dylid cwblhau ffurflenni cais a'u dychwelyd ar-lein neu'n uniongyrchol i'r ysgol erbyn dydd Gwener 9 Mai 2025
Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 19 Mai