MANYLION
  • Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,685 - £27,951 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Gweinyddol

Coleg Sir Gar

Cyflog: £25,685 - £27,951 / blwyddyn

Swyddog Gweinyddol
Application Deadline: 30 April 2025

Department: Swyddfa'r Campws

Employment Type: Cyfnod Penodol - Rhan Amser

Location: Campws Pibwrlwyd

Compensation: £25,685 - £27,951 / blwyddyn

DescriptionMae gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion gyfle cyffrous i Swyddog Gweinyddol ymuno â thîm ein swyddfa gampws, wedi'i leoli ar ein Campysau ym Mhibwrlwyd a Ffynnon Job yng Nghaerfyrddin. Mae hwn yn gyfle i gyflenwi ar gyfer cyfnod mamolaeth a fydd yn gweld yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio 37 o oriau, dydd Llun i ddydd Gwener.

Trwy weithio fel rhan o dîm y swyddfa gampws, byddwch yn chwarae rôl sylweddol wrth wneud gwahaniaeth i fyfyrwyr, staff a phrofiadau ymwelwyr yn Y Coleg. Rydyn ni'n ymdrechu i ddarparu amgylchedd gwaith cefnogol ac ysbrydoledig ac yn ymfalchïo mewn creu diwylliant cynhwysol er mwyn meithrin a chyflawni'r deilliannau gorau posibl. Felly, os yw hyn yn swnio'n debyg i chi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Beth fyddwch chi'n ei wneud?Mae'r cyfle hwn yn addo bod yn un gwerth chweil a boddhaus hefyd. Bydd y Swyddog Gweinyddol yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Campws, y Rheolwr Campws Cynorthwyol ac amrywiol adrannau i gyflawni ystod eang o ddyletswyddau gan gynnwys dyletswyddau gweinyddu, gweithgareddau'r gofrestrfa, ystadau a chyllid. Mae'n hanfodol bod Swyddfeydd Campws yn cynnig gwasanaeth gwybodus i'r holl ddysgwyr, staff ac ymwelwyr mewn amgylchedd croesawgar, dwyieithog, effeithiol a bywiog. Yn y cyd-destun hwn, ni ddylid tanbrisio'r gwerth a roddir ar ofal a chymorth rhagorol i gwsmeriaid.

Beth sydd angen arnoch chi?Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar brofiad o weinyddu, cymhwyster lefel 3 perthnasol, a phrofiad o ddefnyddio ystod o raglenni TG/technoleg. Yn ychwanegol, bydd angen i chi gynnal cyfrinachedd llym, bod â'r gallu i weithio dan bwysau, a meddu ar sgiliau dadansoddi da.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd fod yn hapus a gallu sgwrsio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae cyfweliadau yn debygol o gael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 29ain Ionawr 2024. Os hoffech chi wybod mwy, neu drefnu sgwrs neu gyfarfod anffurfiol, e-bostiwch Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.

Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2/3
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2/3
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Pam gweithio gyda ni?Fel Swyddog Gweinyddol bydd gennych fynediad i amrywiaeth o fuddion sy'n cynnwys:
  • 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol o wyliau ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Parcio car am ddim ar y safle ar bob campws
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein
  • Mynediad am ddim i'r gampfa ar ein Campws yn y Graig
  • Cymorth Iechyd a Lles