MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 9 - £40,476 - £44,711
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 9 - £40,476 - £44,711
Rheolwr Busnes yr YsgolGradd 9 parhaol
SCP 31 i SCP 35
£40,476 - £44,711
Rydym yn chwilio am reolwr busnes ysgol rhagorol ac o'r radd flaenaf. Mae ein rheolwr busnes ysgol presennol yn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn ysgol hon. Byddwch yn unigolyn cadarn ond teg, dynamig, uchelgeisiol a brwdfrydig gyda set sgiliau gweithredol.
Mae Ysgol Harri Tudur yn ysgol gyffrous a chroesawgar i weithio ynddi. Mae ein hysgol yn parhau ar ei thaith gwelliant er mwyn ceisio rhagoriaeth, yn dilyn ein hadroddiad cadarnhaol gan Estyn ym mis Ionawr 2022.
Rydym yn croesawu'n gynnes ymgeiswyr dawnus, uchelgeisiol, egnïol a gwydn sydd nid yn unig yn dymuno ymuno â ni ar y daith honno, ond sy'n gallu ac yn barod i wneud cyfraniad gwerthfawr at ei llwyddiant yn y dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Darparu gweledigaeth strategol ac arweinyddiaeth ar gyfer pob agwedd ar weinyddiaeth yr ysgol, gan gynnwys cyllideb a chyllid, cynhyrchu incwm, rheolaeth cyfleuster a phersonél.
- Cynorthwyo'r pennaeth wrth weithredu, cynnal a datblygu gweithdrefnau a systemau ariannol yr ysgol, gan gynnwys cysylltu â'r awdurdod lleol ac asiantaethau allanol.
- Cynorthwyo'r pennaeth i arfer cyfrifoldeb am bob agwedd ar safle ac adeiladau'r ysgol, gan gynnwys eu cynnal a'u cadw, eu datblygu, eu caffael a'u defnyddio'n effeithlon.
- Gweithredu fel prif staff cymorth proffesiynol yr ysgol ac fel aelod o'r uwch-dîm arwain, gyda chyfrifoldeb am gyflwyno'r holl wasanaethau gweinyddol.
- Cyflawni dyletswyddau clerc y corff llywodraethu.
- Arwain gyda diogelu data, GDPR, iechyd a diogelwch, cynllunio prosiectau, codi arian a datblygu incwm, cynllunio a darparu systemau rheoli a gwybodaeth, rheoli asedau ac asesiadau risg.
Byddai'r swydd hon yn addas ar gyfer rheolwr busnes ysgol profiadol / presennol ond croesewir ceisiadau gan unigolion sy'n credu bod ganddynt sgiliau a phrofiad cryf a pherthnasol.
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ceisiadau yw dydd Mercher 30 Ebrill 2025
Ar gyfer ymweliadau ysgol anffurfiol a thrafodaeth am y rôl cysylltwch â
Mr Nick Makin, Rheolwr Busnes yr Ysgol
Anfonwch neges e-bost i contact@yht.wales neu ffoniwch 01646 682461
Ewch i'n gwefan www.yht.wales
Mae'n ddrwg gennym na fydd modd inni roi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus.
Dylai ymgeiswyr lenwi ffurflen gais Cyngor Sir Penfro yn llawn, gan gynnwys datganiad ategol sy'n nodi sut y maent yn bodloni manyleb yr unigolyn.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.