MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
Athro DosbarthLlawn amser - Parhaol
Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn
Mae Pennaeth a Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn yn dymuno penodi athro dosbarth ysbrydoledig a hynod effeithiol ar gyfer dosbarth cyfunol o ddisgyblion blwyddyn 2 a 3 yn Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn ar sail barhaol. Rydym yn ysgol fywiog, hapus a chefnogol, lle mae darparu amgylchedd diogel a gofalgar yn flaenoriaeth. Mae Ysgol Gynradd Gymunedol y Garn yn ysgol unigryw sy'n llwyddo i hyrwyddo ymwybyddiaeth gref o'n hardal a'n cymuned a balchder mawr ynddynt.
Rydym yn chwilio am ymarferydd dosbarth rhagorol sydd ag angerdd am ddysgu plant ac sy'n ymdrechu i gyrraedd y safonau uchaf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm o staff uchelgeisiol a blaengar, a bydd yn gallu datblygu perthynas waith gref â disgyblion, staff a rhieni. Bydd yn cyfrannu at ethos gweithio fel tîm sy'n nodwedd gref o'r ysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhywun sy'n croesawu'n greadigol athroniaethau'r Cwricwlwm i Gymru ac sy'n barod i gyfrannu at fywyd ysgol gyfan.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan athrawon sydd newydd gymhwyso ac athrawon profiadol.
Rydym yn croesawu ymweliadau â'r ysgol yn ystod yr wythnos yn cychwyn 28 Ebrill 2025. Anfonwch neges e-bost i head.roch@pembrokeshire.gov.uk i drefnu apwyntiad.
Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.