MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Ystod Cyflog: 7 - 13
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth (Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru (a gynorthwyir) Sant Mihangel)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Ystod Cyflog: 7 - 13

Pennaeth (Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru (a gynorthwyir) Sant Mihangel)
Swydd-ddisgrifiad
I ymgeisio
Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i llenwi I recruitment@powys.gov.uk

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru (a gynorthwyir) Sant Mihangel
Ceri, Y Drenewydd SY16 4NU
Ffôn: 01686 670208
PENNAETH
Swydd barhaol llawn amser - ei angen/ei hangen ar gyfer 1
Ionawr 2026 (neu'n gynharach)
Ystod Cyflog: 7 - 13
Nifer ar y gofrestr: 82
Mae'r llywodraethwyr am benodi arweinydd profiadol, brwdfrydig ac ymroddedig i gynnal a datblygu ethos Cristnogol yr ysgol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu ei arweinyddiaeth, ei brofiad a'i sgiliau ymhellach. Mae'r rôl hon hefyd yn cynnwys ymrwymiad i addysgu, gan alluogi'r ymgeisydd llwyddiannus i fod yn ymarferol wrth gyflwyno a datblygu'r cwricwlwm i Gymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn canfod y canlynol:
• Ysgol boblogaidd, sy'n tyfu, yn llwyddiannus, ac yn gynhwysol a blaengar
• Ysgol sydd â hanes o gynnal lefel uchel o ganlyniadau dysgwyr
• Ysgol greadigol sy'n arloesol yn ei datblygiad tuag at y Cwricwlwm i Gymru
• Ysgol hapus, lle mae'r plant yn gweithio'n galed ac yn cael eu hysgogi i wneud eu gorau
• Ysgol sydd â chofnod ragorol o gyflawniad academaidd a gofal am les disgyblion a chymuned yr ysgol
• Tîm o athrawon rhagorol sy'n llawn cymhelliant, gyda chefnogaeth cynorthwywyr addysgu ymroddedig
• Amgylchedd hyfryd mewn cymuned wledig hyfryd yn Nyffryn Ceri.
• Llywodraethwyr cefnogol, rhieni, a chymuned a Ffrindiau ysgol gweithgar a
chefnogaeth gan y gymuned eciwmenaidd.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos y canlynol:
• Tystiolaeth o sgiliau arwain sy'n cymell staff a disgyblion i gyrraedd eu llawn
botensial
• Sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol
• Y gallu i hybu'r ethos Cristnogol o fewn yr ysgol
• Sgiliau addysgu rhagorol (mae'r swydd yn gofyn am ymrwymiad addysgu o 0.5)
• Bod ganddynt ddisgwyliadau uchel o'r disgyblion a'r staff
• Rheolaeth ariannol a chyllidebu ysgolion rhagorol
• Gwybodaeth drylwyr o'r cwricwlwm i Gymru
• Gwybodaeth ragorol am god ac arferion ADY Cymru
• Tystiolaeth o gymhwysedd digidol
Rydym yn annog pob ymgeisydd i ymweld â'r ysgol cyn gwneud cais.
Gellir trefnu ymweliadau trwy gysylltu â gweinyddwr yr ysgol clerk@st
michaels.powys.sch.uk
Mae ffurflenni cais a manylion swydd ar gael gan recruitment@powys.gov.uk
Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u llenwi i'r Awdurdod Lleol erbyn hanner dydd 22 Mai 2025 ynghyd â llythyr ategol cryno gan yr ymgeisydd.
Y rhestr fer i'w chynnal ar 23 Mai 2025, Cynhelir cyfweliadau ar 11 a 12 Mehefin 2025.