MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Uwchradd Tywyn,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £49,944 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mai, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth Gwyddoniaeth Blynyddoedd 10-11 ac Athro / Athrawes Gwyddoniaeth

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £49,944 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL UWCHRADD TYWYN

(Cyfun 11 - 16: 380 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1 af o Fedi 2025.

PENNAETH GWYDDONIAETH BLYNYDDOEDD 10 - 11 AC ATHRO / ATHRAWES GWYDDONIAETH (ar sail parhaol)

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus addysgu yr holl ystod gallu ac oedran. Bydd arbenigedd Bioleg yn fanteisiol, ond cynigir hyfforddiant os oes angen.

Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos, ond rhoddir ystyriaeth i swydd rhan amser.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) y flwyddyn ynghyd a lwfans Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu CAD2B o £5,747 y flwyddyn i'r ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr David Thorp ar 01654 710256, neu drwy e-bost i pennaeth@tywyn.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Lynsey Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Uwchradd Tywyn, Ffordd yr Orsaf, Tywyn, Gwynedd, LL36 9EU (Rhif Ffôn: 01654 710256). Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B., DDYDD IAU, 1 MAI, 2025

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD

CYMWYSTERAU /HYFFORDDIANT GALWEDIGAETHOL/CYMWYSEDDAU

Dull Asesu
  • Gradd Anrhydedd

Ffurflen Gais
  • Statws athro wedi cymhwyso

Ffurflen Gais

GWYBODAETH A SGILIAU

  • Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sectorau cynradd ac uwchradd

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau hunan-arfarnu a dealltwriaeth gyflawn o bwrpas cynllun busnes yr ysgol

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy'n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corf llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Deall gofynion cynllunio ariannol strategol, rheolaeth gyllidebol ac egwyddorion gwerth gorau.

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Meddu ar wybodaeth dda o'r cwricwlwm ehangach tu hwnt i'r ysgol a'r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o'r Iaith Gymraeg/Cwricwlwm Cymreig yn yr ysgol

Ffurflen gais a chyfweliad

PROFIAD

  • Tystiolaeth o brofiad cyson a perthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Profiad o ddatblygu strategaethau addysgu a dysgu effeithiol

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Tystiolaeth o weithio'n effeithiol gyda llywodraethwyr

Ffurflen gais a chyfweliad
NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL

  • Dangos brwdfrydedd ac ymroddiad tuag at y broses ddysgu

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Hawdd mynd ato/ati a gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Gallu arddangos yn glir i ba gyfeiriad mae'r ysgol yn mynd

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Parod i gydweithio ag asiantaethau eraill er lles disgyblion, teuluoedd a'r gymuned

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Yn rhugl o ran safon sgiliau ar lafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg

Ffurflen gais a chyfweliad

ANGHENION Y BUASAI'N DDYMUNOL EU CAEL YN Y SWYDD
  • Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth

Ffurflen gais a chyfweliad
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus

Ffurflen gais a chyfweliad

Swydd Ddisgrifiad

Swydd Ddisgrifiad

Swydd:

PENNAETH GWYDDONIAETH BLYNYDDOEDD 10 AC 11

Service:

Dysgu ac Addysgu

Pwrpas:

I arwain a rheoli dysgu ac addysgu Gwyddoniaeth Blynyddoedd 10 ac 11

Adrodd i:

UDRh

Cyfrifoldeb dros:

Darpariaeth addysg Gwyddoniaeth ar draws yr ystod oedran a gallu

Amser:

Amser llawn / Rhan amser

Tâl:

CAD 2B

DYLETSWYDDAU

Arwain a Rheoli:

  • Arwain a rheoli'r dysgu ac addysgu Gwyddoniaeth i flynyddoedd 10 ac 11, gan gynnwys i:
    • fod yn gyfrifol am y gyllideb ac archebion offer / adnoddau
    • fod yn gyfrifol am holl adnoddau'r maes dysgu
    • gynnal cyfarfodydd rheolaidd
    • lunio Cynllun Gwella a'i adolygu'n flynyddol
    • gynorthwyo'r UDRh gyda hysbysebu ac apwyntio rolau o fewn y maes dysgu
    • fynychu cyfarfodydd / pwyllgorau fel yr angen
  • Arwain a chefnogi tîm o staff addysgu ym maes y cwricwlwm gan sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cwricwlaidd yr ysgol ynghyd â dyletswyddau athrawon dosbarth yn cael eu cyflawni
  • Archwilio gwaith staff ategol sy'n cefnogi gwaith o fewn maes y cwricwlwm, gan sicrhau eu defnydd mwyaf effeithiol
  • Ymateb i a chynorthwyo eraill am geisiadau am wybodaeth
  • Sicrhau cyfathrebu effeithiol a throsglwyddo gwybodaeth rhwng disgyblion, staff, UDRh ac asiantaethau allanol ar gyfer lles, gofal a datblygiad addysgol disgyblion
  • Sicrhau cyfleoedd ar gyfer Datblygiad Proffesiynol i staff o fewn y maes dysgu
  • Datblygu cysylltiadau rhwng y maes dysgu a'r gymuned a'r byd gwaith - lle bo'n briodol ac yn fanteisiol
  • Datblygu cysylltiadau agos ag ysgolion cynradd dalgylch ar gyfer cydweithio a throsglwyddo cynradd i uwchradd
  • Mynd i'r afael â materion Iechyd a Diogelwch yn briodol

Dysgu ac Addysgu:

  • Llunio nodau ac amcanion ar gyfer y maes dysgu sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau yr Ysgol gan fanylu ar y wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd sydd i'w ennill gan ddisgyblion o bob oedran a gallu
  • Llunio a chadw'r wybodaeth ddiweddaraf am y maes dysgu sy'n ymateb i feysydd gwaith Cwricwlwm Cymru a'r bwrdd arholi, gan ystyried:
  • parhad yn y cwricwlwm 5-16 oed
  • dulliau dysgu ac addysgu
  • dulliau asesu
  • gofynion disgyblion o wahanol alluoedd
  • talu sylw priodol i agweddau trawsgwricwlaidd
  • Datblygu a gweithredu cyfundrefn asesu briodol a fydd yn:
  • talu sylw i'r holl wybodaeth, deall sgiliau a gwerthoedd a ddatblygwyd
  • asesu cynnydd yn rheolaidd
  • galluogi staff i nodi tangyflawni
  • galluogi staff i fonitro ac olrhain cynnydd disgyblion
  • galluogi staff i roi gwybod am gynnydd disgyblion iddyn nhw eu hunain, eu rhieni a'r UDRh
  • Bod yn gyfarwydd â gofynion dulliau asesu cenedlaethol gan gynnwys Cwricwlwm i Gymru, maes llafur y bwrdd arholi ac arholiadau allanol
  • Bod yn gyfrifol am gyfansoddiad grwpiau dysgu o fewn maes y cwricwlwm
  • Cynghori UDRh ar y defnydd gorau o staff yn y maes dysgu
  • Sicrhau bod ystafelloedd dosbarth ardal y cwricwlwm ynghyd â'r coridorau cyfagos yn darparu amgylchedd taclus a diddorol sy'n ysgogi disgyblion, a bod arddangos gwaith disgyblion yn rhan o'r amgylchedd hwn
  • Monitro ac adolygu datblygiad a chynnydd disgyblion yn rheolaidd yn y maes dysgu
  • Cadw'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau o fewn y maes dysgu (megis cynnwys, methodoleg) a maes trawsgwricwlaidd
  • Ymgymryd â rhaglen addysg briodol yn unol â dyletswyddau staff addysgu a disgrifiadau swydd
  • Asesu, cofnodi ac adrodd cynnydd disgyblion yn unol â dyletswyddau a disgrifiad swydd staff addysgu

Cynnydd disgyblion:

  • Bod yn gyfrifol am ymddygiad a chynnydd addysgol disgyblion yn y maes dysgu
  • Monitro cynnydd addysgol disgyblion o fewn y maes dysgu
  • Llunio / paratoi adroddiadau ar gynnydd addysgol disgyblion o fewn y maes
  • Monitro cofnodion academaidd disgyblion o fewn y maes drwy:
  • awdurdodi'r dathlu o lwyddiant yn unol â pholisi ymddygiad, canmoliaeth a disgyblu'r ysgol
  • gweithredu'r weithdrefn ddisgyblu yn unol â pholisi ymddygiad, canmoliaeth a disgyblu'r Ysgol

Safonau a Sicrhau Ansawdd:

  • Monitro gwaith a safonau o fewn y maes dysgu drwy:
  • monitro gwersi
  • safoni gwaith disgyblion
  • cadw portffolio o waith a safonau disgyblion
  • dadansoddi data





  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi