MANYLION
  • Lleoliad: Porthcawl Primary,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £21,390 - £22,087 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Gweinyddol - Ysgol Gynradd Porthcawl

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £21,390 - £22,087 y flwyddyn

Swyddog Gweinyddol - Ysgol Gynradd Porthcawl
Disgrifiad swydd
35 awr yr wythnos

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Porthcawl yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Gweinyddol brwdfrydig i ymuno â'n swyddfa brysur. Dylai ymgeiswyr fod yn gymwys i NVQ Lefel 2 neu gyfwerth.

Mae hon yn swydd allweddol yn yr ysgol, sef y pwynt cyswllt cyntaf i rieni, ymwelwyr a chymuned yr ysgol a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau gweinyddol, clercol ac ariannol.

Byddai rhywfaint o wybodaeth am y pecyn SIMS a gwybodaeth am systemau ariannol ysgolion yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol; fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr fod yn hyddysg mewn cyfrifiadura, ac yn meddu ar sgiliau prosesu geiriau a rhifedd gwych. Mae'r gallu i weithio o fewn terfynau amser tynn yn un o'r gofynion hanfodol ar gyfer y swydd.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 30 Ebrill 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 02 Mai 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 12 Mai 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person