MANYLION
  • Lleoliad: Oldcastle Primary School,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro - Ysgol Gynradd Oldcastle (Dros Dro)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Athro - Ysgol Gynradd Oldcastle (Dros Dro)
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Dros dro hyd at 31 Awst 2026

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Oldcastle am benodi athro/athrawes llawn cymhelliant ac ymuno â'n hysgol gefnogol a blaengar ar ei thaith i ragoriaeth.

Mae Ysgol Gynradd Oldcastle yn ceisio ysbrydoli, cymell, ac addysgu dros 400 o blant rhwng 3 ac 11 oed. Rydym yn ysgol uchelgeisiol lle mae gwerthoedd dysgu yn sail i ragoriaeth, mae unigolion yn cael eu gwerthfawrogi, mae cyflawniadau'n cael eu dathlu, ac mae ein disgyblion, ein staff a'n cymuned yn hapus ac yn ddiogel ac yn dysgu gyda'i gilydd drwy gwricwlwm bywiog ac arloesol.

Mae Estyn wedi cydnabod bod Ysgol Gynradd Oldcastle yn amgylchedd dysgu cynhwysol, croesawgar, a hapus, gyda llesiant disgyblion yn ganolbwynt iddi. Mae natur ofalgar y staff a'r parch a ddangosir gan ddisgyblion at ei gilydd, y staff ac ymwelwyr yn nodweddion cryf yr ysgol.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at waith rhagorol yr ysgol i gefnogi teuluoedd a'r gymuned ehangach, sy'n rhan hanfodol o ethos yr ysgol. Mae Ysgol Oldcastle yn fwy na dysgu yn unig.

Canmolodd adroddiad Estyn ymrwymiad Ysgol Gynradd Oldcastle i lesiant disgyblion, gan nodi bod natur ofalgar y staff a'r parch a ddangosir gan ddisgyblion at ei gilydd, staff, ac ymwelwyr yn nodweddion cryf yr ysgol. Mae disgyblion yn mwynhau dod i'r ysgol ac yn ymfalchïo'n fawr mewn bod yn rhan o gymuned yr ysgol. Mae Ysgol Gynradd Oldcastle yn cael ei chydnabod am ddatblygu hyder, hunan-barch y disgyblion, ac agweddau cadarnhaol tuag at eu haddysg. Yn gyffredinol, mae cwricwlwm yr ysgol yn darparu cyfleoedd buddiol i ddisgyblion ddysgu.

Bydd angen i'r athro/athrawes a benodir fod yn rhywun sy'n llawn cymhelliant ac sy'n gallu ysbrydoli ac ennyn brwdfrydedd y plant. Person sydd â sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu eithriadol sy'n gallu gosod a chynnal safonau uchel o addysgu, dysgu ac ymddygiad. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru, profiad o addysgu ar draws y cyfnod cynradd a gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Fel ysgol, gallwn gynnig ymrwymiad i gynorthwyo addysgu, disgyblion brwdfrydig sy'n ymddwyn yn dda iawn ac sy'n barod i ddysgu, cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus gwych i ddatblygu addysgu yn unol â'r ymchwil ddiweddaraf ac ethos cryf, yn seiliedig ar werthoedd dysgu.

Mae croeso i athrawon newydd gymhwyso wneud cais.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 7 Mai 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 12 Mai 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 19 Mai 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person