MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Bryn Castell,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon + ADY 1
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro ADY 1 - Ysgol Bryn Castell
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon + ADY 1
Athro ADY 1 - Ysgol Bryn CastellDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bryn Castell yn dymuno penodi athro/athrawes llawn cymhelliant sydd â phrofiad o addysgu disgyblion ag anawsterau ymddygiad, emosiynol a chymdeithasol, awtistiaeth ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY) cysylltiedig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth wedi'i deilwra i anghenion unigol disgyblion ag anawsterau ymddygiad, emosiynol a chymdeithasol ac awtistiaeth, yn deall ac yn gweithredu strategaethau i gynorthwyo disgyblion ag ADY mewn amgylchedd Ysgol Arbennig ac yn gallu addysgu amrywiaeth o bynciau i ddisgyblion ar draws yr ysgol, gan feithrin awyrgylch dysgu cynhwysol a chefnogol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 30 Ebrill 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 05 Mai 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 12 Mai 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person