MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Porthcawl Primary,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth L13 – L19 £68,090 - £78,910
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Pennaeth - Ysgol Gynradd Porthcawl
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth L13 – L19 £68,090 - £78,910
Pennaeth - Ysgol Gynradd PorthcawlDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Mae Ysgol Gynradd Porthcawl yn nhref Porthcawl yn awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae 176 o ddisgyblion ar y gofrestr, sydd rhwng tair ac un ar ddeg oed. Mae gan yr ysgol saith dosbarth, ac mae tri ohonynt yn oedran cymysg, ac ar hyn o bryd mae'n cyflogi saith athro amser llawn. Mae'r adroddiad Estyn diweddaraf, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023, ar gael ar wefan yr ysgol.
Rydym yn ceisio penodi Pennaeth arloesol, angerddol, a llawn ysbrydoliaeth sydd â gweledigaeth glir i barhau i hybu safonau uchel a'n gwerthoedd craidd, gan ysbrydoli, cefnogi, a herio'r holl blant fel y gallant gyflawni eu potensial.
Bydd gan yr ymgeisydd y sgiliau proffesiynol angenrheidiol i adeiladu ar y sylfeini cadarnhaol a'r perthnasoedd rhagorol sydd eisoes yn eu lle gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweinyddiaeth i'r ysgol, gan gynnal ei llwyddiant ac adeiladu arno i sicrhau addysg ragorol i bob disgybl a pharhau â'i henw da fel ysgol hapus, ofalgar, gyda phlant cyfeillgar, staff ymroddedig iawn a Chorff Llywodraethu cefnogol.
Hoffai’r llywodraethwyr benodi pennaeth:
Sydd â phrofiad o arweinyddiaeth lwyddiannus yn y cyfnod sylfaen.
Sydd wedi dangos sgiliau arweinyddiaeth eithriadol sy’n ysbrydoli ymddiriedaeth a hyder yn y gymuned ysgol gyfan.
Cyfathrebwr naturiol ag ymagwedd frwdfrydig a chreadigol.
Yn meddu ar yr egni, yr angerdd a'r ymroddiad i wella deilliannau i’n holl ddisgyblion, gyda diddordeb gwirioneddol yn natblygiad cyfannol pob plentyn.
Y parodrwydd i barhau a gwella nodau ac amcanion yr ysgol, gan gynnwys cysylltiadau cryf â'r gymuned.
Bydd yn gallu arwain, ysbrydoli ac ysgogi staff wrth wneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.
Bydd yn gweithio gydag ysgolion eraill, mewn hinsawdd o her i'r ddwy ochr, gan hyrwyddo arfer gorau i sicrhau deilliannau gwych i'r holl fyfyrwyr.
Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu penodiad cyntaf yn Bennaeth feddu ar y CPCP.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 01 Mai 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 07 Mai 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 19 & 20 Mai 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person