MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athrawes CAD - Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Gelliswick

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944

Athro yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu - Ysgol Wirfoddol a Reolir Gelliswick

Prif raddfa gyflog/uwch raddfa gyflog + lwfans ADY; swydd amser llawn barhaol

Mae Ysgol Gynradd Gelliswick yn chwilio am athro amser llawn i ymuno â'n hysgol fywiog. Mae hwn yn gyfle gwych i ymarferydd ymroddgar, brwdfrydig a myfyriol sy'n ymrwymedig i wella ei addysgu. Byddwch yn ymuno â ni yn ystod cyfnod o ddatblygiad cyffrous yn Gelliswick, wrth i ni ddod â'n gweledigaeth o gymuned ddysgu amrywiol a chynhwysol yn fyw: cymuned sy'n gwerthfawrogi pawb, sy'n darparu gobaith, ac sy'n cydweithio i wneud dyfodol pob plentyn yn well nag yr oedd yn ei feddwl oedd yn bosibl.

Mae Gelliswick yn ysgol gyfeillgar a chroesawgar sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal rhagorol i'n disgyblion a datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel i'n staff. Fe gewch y buddion uniongyrchol o ymuno â thîm o staff ymrwymedig, cydweithredol ac ymroddgar, gan weithio mewn adeilad newydd sbon a agorwyd ym mis Ionawr 2018. Mae gan yr ysgol oddeutu 458 o ddisgyblion, gan gynnwys 25 o ddisgyblion ag anghenion cymhleth, sy'n mynychu'r ganolfan adnoddau dysgu mewn amgylchedd dysgu sydd â llawer o adnoddau.

Mae'r ysgol am benodi ymarferydd blaengar ac arloesol sy'n frwd dros y newidiadau ym maes addysg sy'n mynd rhagddynt yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yr hoffai'r cyfle i drosi'r syniadau hyn yn addysgu ymarferol. Mae'r corff llywodraethu yn chwilio am unigolyn ysbrydoledig i weithio yn y ganolfan adnoddau dysgu, gan arwain tîm o staff cymorth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael hyfforddiant a chefnogaeth gan staff profiadol y ganolfan adnoddau dysgu. Mae profiad o weithio gyda phlant ag ADY yn ddymunol ond nid yn hanfodol.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n bodloni manyleb y person yn y swydd-ddisgrifiad ac sy'n bodloni'r canlynol:
  • Yn ymarferydd dosbarth rhagorol gyda hanes o lwyddiannau y gellir ei ddangos
  • Yn angerddol ac yn wybodus am ddysgu ac am ddatblygiad plant, ac yn cymhwyso'r wybodaeth honno yn yr ystafell ddosbarth i sicrhau'r cynnydd gorau posibl i bob dysgwr
  • Yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o addysgeg, ac yn ymwneud â'r pedwar diben a'r profiadau dysgu sy'n ganolog i ddiwygiad presennol y cwricwlwm
  • Yn meddu ar y sgiliau a phrofiad i reoli tîm bach, ac â'r gallu i fod yn batrwm ar eu cyfer.

Mae'r swydd hon yn benagored.

Os hoffech drafod y swydd neu ymweld â'r ysgol, cysylltwch â Leanne Prevel, y Pennaeth, ar 01646 692894.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Llun, 28 Ebrill.

Bydd rhestr fer yn cael ei llunio ddydd Mercher, 30 Ebrill.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ddydd Mawrth, 6 Mai.

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae polisi diogelu corfforaethol y cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r cyngor neu'n gweithio ar ran y cyngor.

Os ydych chi eisoes yn ddefnyddiwr, gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi i'ch cyfrif cyn dechrau llenwi ffurflen gais.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.