MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro\/Athrawes Cyfnod Sylfaen Dros Dro - Ysgol Llangelynnin

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Ysgol Llangelynnin

Henryd, Conwy, LL32 8YB

Ffôn: (01492) 592898

Pennaeth: Mr Gwil Prydderch

Yn eisiau erbyn mis Medi 2025

ATHRO / ATHRAWES CYFNOD SYLFAEN DROS DRO

(Cyfnod Mamolaeth)

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Oriau: Rhan Amser, 4 diwrnod yr wythnos (0.8)

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod oddi wrth athrawon brwdfrydig a phrofiadol i addysgu plant y Cyfnod Sylfaen. Gan mai ysgol Gymraeg yw Ysgol Llangelynnin, mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.

Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar (01492) 592898 neu pennaeth@llangelynnin.conwy.sch.uk

I lein. Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English