MANYLION
- Lleoliad: Ystrad Mynach,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £33,009.00-£35,244.00
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £33,009.00-£35,244.00
Asesydd Technegol TrydanolSwydd ddisgrifiad
Am y rôl:
Fel Asesydd Technegol Trydanol, byddwch yn cynllunio, rheoli ac adolygu asesiadau, gan sicrhau bod dysgwyr yn deall y broses asesu ac yn cael adborth adeiladol. Byddwch yn olrhain cynnydd dysgwyr, yn datblygu amserlenni asesu, ac yn cydweithio â chydweithwyr i gynnal safonau addysgu ac asesu uchel. Yn ogystal, byddwch yn cysylltu â chyflogwyr, sefydliadau dyfarnu, a rhanddeiliaid perthnasol i gefnogi datblygiad dysgwyr. Byddwch hefyd yn cyfathrebu'n effeithiol â chwsmeriaid a gweithwyr, yn cefnogi dysgwyr trwy gydol eu cymwysterau, ac yn hyrwyddo'r coleg.
Gwybodaeth Bellach:
Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.
Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.
Canllawiau Cais:
Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.
Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law
Cyswllt:
Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â people@cymoedd.ac.uk