MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Technegydd Gwyddoniaeth (Lefel 2) (Ysgol Uwchradd Aberhonddu)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £24,790 i £25,183 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.84 i £13.05 yr awr
Technegydd Gwyddoniaeth (Lefel 2) (Ysgol Uwchradd Aberhonddu)Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Dan gyfarwyddyd Uwch Dechnegydd / Arweinydd Tîm, darparu gwasanaeth
cefnogi technegydd, gan fodloni safonau iechyd a diogelwch a gofynion y
dosbarthiadau dan sylw.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â'r Ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am
oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb
uniongyrchol am adnoddau ffisegol, mewn perthynas â chynnal a chadw offer o ddydd i ddydd a/neu archebu/rheoli stoc o ystod gyfyngedig o gyflenwadau a/neu ddefnyddio offer drud.
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS