MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 55,900 - 61,705 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Gymraeg

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 55,900 - 61,705 *

Ynglŷn â'r rôl
Sylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.

Yn sgîl penodiad y Dirprwy Bennaeth presennol i rôl y Pennaeth, mae Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn awyddus i benodi unigolyn ymroddedig ac ysbrydoledig ar gyfer yr ysgol gynradd gymunedol boblogaidd hon. LleolirYsgol Gymraeg Aberystwyth ar gyrion tref glan y môr Aberystwyth yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Dyma ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru a sefydlwyd yn 1939 gan Syr Ifan ab Owen Edwards.

Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn ysgol gynradd fawr, hynod lwyddiannus, gyda 365 o ddisgyblion ar y gofrestr.Daw'r plant atom o dref Aberystwyth ac o'r ardaloedd gwledig cyfagos.

Mae holl waith a bywyd yr ysgol yn seiliedig ar dri nod cytûn ar gyfer ei disgyblion a'i staff, sef hybu balchder yn eu Cymreictod, parchu ei gilydd a gwneud eu gorau glas. Mae'r nodau hyn yn treiddio'n gryf iawn trwy holl weithgareddau'r ysgol. Mae llais y disgybl yn bwysig ac yn cael ei barchu drwy'r ysgol. Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd pellach i ragori yn y dyfodol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
  • cefnogi'r Pennaeth o ran datblygiad yr ysgol hon sydd wedi ei hen sefydlu ac sy'n rhoi lle canolog i'r Gymraeg yn y gymuned
  • cydlynu a gwneud trefniadau addas ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
  • y gallu i annog disgyblion i gofleidio'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni i gefnogi'r Gymraeg adref
  • dealltwriaeth o arferion dysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i'w datblygu drwy'r ysgol yn y dyfodol
  • medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu
  • dealltwriaeth o bwysigrwydd datblygiad unigol pob disgybl er mwyn iddynt gyflawni ei lawn botensial
  • gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol a gwir ddiddordeb yn y maes
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Am sgwrs bellach neu i dderbyn mwy o fanylion am y swydd mae croeso i chi gysylltu â'r Pennaeth Gareth James trwy e-bostio JamesG19@hwbcymru.net neu ffonio 01970 617613

Dyddiad Cau:Dydd Gwener, yr 2ail o Fai 2025 (hanner nos)

Cyfweliadau:Dydd Mawrth, 13eg o Fai 2025(gofynnir i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar y diwrnod hwn)

Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Dirprwy Bennaeth Yr Ysgol Gymraeg lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy