MANYLION
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cefnogi Pynciol (Digidol)

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

Swyddog Cefnogi Pynciol (Digidol)

Lleoliad: Hyblyg (Caernarfon, Dolgellau, Pwllheli)

Cyflog: Soulbury 13-16/19 (£58,400 - £62,634 / £66,724)

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwern ap Rhisiart (Pennaeth Addysg) ar gwernaprhisiart@gwynedd.llyw.cymru

Cynnal cyfweliadau - 2il o Fai, 2025.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-nost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 12.00 O'R GLOCH, DYDD MAWRTH , 29/04/2025

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person

NODWEDDION PERSONOL

HANFODOL

Yn gallu i feddwl a gweithio'n arloesol, yn annibynnol ac yn strategol.

Meddwl yn drefnus, cywir a chlir, yn enwedig o dan bwysau ac wrth wynebu blaenoriaethau sy'n gwrthdaro, ynghyd â rheoli amser yn effeithiol.

Sgiliau cydweithio cryf gyda'r gallu i ddangos partneriaethau cryf a chydweithio gyda: Staff Ysgol, Penaethiaid, Llywodraethwyr, Cyrff Rheoleiddio, Aelodau Etholedig a Swyddogion Awdurdodau Lleol ehangach.

Y gallu i weithio'n sensitif ac ar y cyd ag ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid i sicrhau newid cadarnhaol.

Yn rhoi anghenion y dysgwr yn ganolog mewn addysg.

Gydag uchelgais ar gyfer plant a phobl ifanc a'r penderfyniad i wella eu canlyniadau.

DYMUNOL

-

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL

HANFODOL

Statws athro wedi cymhwyso.

Profiad o arwain safonau digidol yn llwyddiannus mewn lleoliad addysg berthnasol.

Gallu dangos y strategaethau a ddefnyddir i: sicrhau lefelau uchel o gysondeb yn ansawdd yr addysgu a'r dysgu; ac ysgogi gwelliannau mewn safonau.

DYMUNOL

Tystiolaeth o astudio pellach e.e. cymhwyster meistri mewn arweinyddiaeth neu addysg.

Cymhwyster rheolaethol.

PROFIAD PERTHNASOL

HANFODOL

Profiad o wella perfformiad ysgol yn sylweddol (mewn swydd arweinyddiaeth mewn ysgol neu weithiwr proffesiynol mewn Awdurdod Lleol neu Gonsortia Rhanbarthol).

Wedi gwneud cyfraniad ehangach i ddatblygiadau addysgol sydd wedi cyfrannu at welliant cynaliadwy sylweddol.

Wedi rhoi arweiniad a defnyddio sgiliau rheoli'n effeithiol ar lefel uwch er mwyn cefnogi ysgolion.

Wedi rheoli ymyriadau ysgol yn llwyddiannus a fu gyfrannu tuag at welliant cynaliadwy arwyddocaol.

Gallu adnabod themâu allweddol ar gyfer datblygiad a gweithredu o dystiolaeth hunan-arfarnu a sicrhau y caiff angen ei fodloni.

Profiad o wneud cyfraniad ehangach at ddatblygiadau addysgol.

Gallu arfarnu effaith a gweithrediad strategaethau lleol a cenedlaethol tuag at wella perfformiad ysgol ymhellach.

Profiad eang o ddefnyddio a chymhwyso data perfformiad.

Gallu herio perfformiad ysgol, gweithdrefnau olrhain a gosod targed a delio gydag tanberfformio.

Gallu herio arfer gwael a methu trosglwyddo gweithrediadau angenrheidiol y cytunwyd arnynt a dal uwch reolwyr a llywodraethwyr yn atebol.

Dangos tystiolaeth o allu rheoli a chynnal newid ar gyfer gwelliant gan gyflawni hynny'n fedrus.

Gallu meddwl a gweithio'n hyblyg, yn arloesol, yn annibynnol ac yn strategol tra hefyd yn meddu ar sgiliau cydweithredol a logistaidd cryf.

Gallu gweithio dan bwysau a chwrdd ag amserlenni tynn.

Bod yn fodlon gweithio tu allan i oriau gweithio arferol pan fo angen.

DYMUNOL

Profiad eang o reoli cyllideb.

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL

HANFODOL

Gwybodaeth drylwyr o safonau digidol hyd at safon TGAU.

Gwybodaeth a dealltwriaeth o oblygiadau deddfwriaeth a fframweithiau addysgol cyfredol, yn enwedig y rhai sy'n canolbwyntio ar wella ysgolion, ac i ddehongli rheoliadau/canllawiau amrywiol er mwyn darparu cyngor ac arweiniad perthnasol i ddefnyddwyr gwasanaeth.

Gwybodaeth a dealltwriaeth o oblygiadau deddfwriaeth a fframweithiau addysgol cyfredol yn cynnwys gwella ysgolion sy'n wynebu anawsterau.

Gwybodaeth gadarn o'r hyn sy'n effeithio ar ansawdd mewn darpariaeth addysgol, nodweddion ysgolion effeithiol a'r strategaethau ar gyfer gwella arfer addysgu effeithiol a llwyddiannau disgyblion.

Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth cyfle cyfartal a'r materion sy'n ymwneud â chyflawniad gwahanol grwpiau o ddisgyblion.

Dangos y gallu i ddeall, dadansoddi, gwerthuso a gweithredu egwyddorion ac arfer systemau sicrhau ansawdd, gan gynnwys hunanwerthuso a rheoli perfformiad ysgolion.

Meddu ar wybodaeth o sut mae cydweithio â phartneriaid allweddol, asiantaethau a gwasanaethau cefnogi yn cyfrannu tuag at wella ysgol.

Y gallu i weithio ar y cyd ag eraill a dangos parodrwydd i rannu sgiliau, arbenigedd, gwybodaeth a gallu wrth gydnabod ffiniau proffesiynol.

Y gallu i ddangos ymrwymiad i wella addysg drwy ddatblygu partneriaethau llwyddiannus a chydweithio.

Y gallu i ddatrys problemau a dangos diplomyddiaeth wrth ddelio â materion sensitif.

Yn fedrus wrth werthuso a dadansoddi dangosyddion perfformiad a nodi'r ffactorau sy'n hyrwyddo neu'n rhwystro cynnydd

Cyfrannu at Gynllunio Busnes y Gwasanaeth Addysgol sy'n cynnwys nodi targedau a risgiau yn ogystal â monitro ei weithrediad.

Gallu creu cysylltiadau a sefydlu partneriaethau gan gynnwys partneriaethau cymunedol a gyda gwasanaethau perthnasol eraill.

Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o dechnoleg gwybodaeth.

DYMUNOL

-

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad

Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.

Darllen a Deall

Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.

Ysgrifennu

Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg mewn modd gwbl hyderus gan ddefnyddio'r dull a'r iaith fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r gynulleidfa.

Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas y Swydd.

• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Sicrhau safonau dysgu ac addysgu, ac arweinyddiaeth effeithiol ac effeithlon ysgolion Gwynedd.
• Sicrhau addysg o ansawdd uchel i'r holl blant a phobl ifanc ar draws y sir drwy weithio gydag eraill i gyfrannu at ddatblygiad, gwelliant ac effeithiolrwydd ysgolion.
• Darparu cefnogaeth briodol i ysgolion hyrwyddo a chynnal gwelliant a sicrhau her effeithiol i gwrdd â dyletswyddau statudol yr Awdurdod Lleol.
• Arwain ar agweddau mewn perthynas â safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth i gefnogi agweddau statudol ac anstatudol addysg ym mhob lleoliad a ddyrannwyd o dan gyfarwyddyd.
• Cyfrannu tuag at y safonau cyrhaeddiad uchaf posibl i bawb drwy ddarparu cymorth priodol i ysgolion hyrwyddo a chynnal gwelliant, a sicrhau her effeithiol i gyflawni dyletswyddau statudol yr Awdurdod Lleol.
• Gweithio mewn partneriaeth yn lleol ac yn rhanbarthol i ddarparu cyngor ac arweiniad i ysgolion a'r Awdurdod ar addysg.
• Cyfrannu at ddarparu cefnogaeth gadarnhaol sydd yn gefnogol a heriol i holl ysgolion Gwynedd.
• Cynghori a chefnogi ysgolion a rhanddeiliaid (gan gynnwys rhieni a llywodraethwyr) ar faterion arweinyddiaeth a rheolaeth addysg.

Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer

Cyfrifoldeb am gynnal safonau digidol hyd at safon TGAU.
Cyfrifiadur a ffôn symudol.

Prif Ddyletswyddau. .

Disgwylir i'r Swyddog Cefnogi Pynciol fod ac adnabyddiaeth drylwyr o safonau digidol hyd at safon TGAU.

Disgwylir i'r Swyddog Cefnogi Pynciol adnabod cryfderau a meysydd sydd angen sylw yn yr ysgolion y maent yn eu cefnogi, gan ddal sylw a gweithredu yn unol â'r angen ar yr ystod lawn o agweddau sydd yn sicrhau fod disgyblion yn gwneud y cynnydd disgwyliedig.

Disgwylir i'r Swyddog Cefnogi Pynciol fod yn gefn i benaethiaid ac arweinyddion pwnc yng Ngwynedd gan weithio ochr yn ochr â hwy i wella profiadau a chyflawniad plant a phobl ifanc Gwynedd. Mae'n ddisgwyliedig y bydd y Swyddog Cefnogi Pynciol ar gael ac yn ymateb yn brydlon a chynnig arweiniad o ansawdd.

Disgwylir i'r Swyddog Cefnogi Pynciol arwain a bod yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth a her broffesiynol i ysgolion ar draws y sir ac yn enwedig yn ei maes arbenigol (digidol).

Disgwylir i'r Swyddog Cefnogi Pynciol fod yn rhan allweddol o feithrin y diwylliant lle bod ysgolion yn cefnogi ei gilydd gyda sylw pawb ar sicrhau fod plant Gwynedd yn gwneud cynnydd ac yn cyrraedd eu llawn botensial.

Disgwylir i Swyddog Cefnogi Pynciol gyflawni'r swydd trwy gyfeirio'n uniongyrchol at y Deddfau Addysg, Fframwaith Gwella Ysgolion, Rheoliadau, Codau Ymarfer a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig sy'n ymwneud â'r swydd.

Mae'n swydd heriol ac mae disgwyl i'r Swyddog Cefnogi Pynciol fod â lefelau uchel o wybodaeth arbenigol, sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu ac arweinyddiaeth, a ddiffinnir gan Safonau Cenedlaethol.

Er mwyn bod yn effeithiol fel Swyddog Cefnogi Pynciol, mae angen :
• bod â phrofiad perthnasol a hygrededd a ddaw o arwain yn llwyddiannus mewn ysgol;
• perthnasu'n dda ag eraill gan adlewyrchu'r diwylliant yr ydym yn dymuno ei feithrin yng Ngwynedd;
• dangos y gallu i ddylanwadu ar a dwyn perswâd ar eraill i weithredu, a hefyd dangos sgiliau hyrwyddo
ar lefel uchel, a hynny'n aml o dan amgylchiadau heriol, ac
• arddangos y safonau sydd eu hangen i reoli a chefnogi'r unigolion a'r timau er mwyn cyflawni amcanion
cyffredinol y Gwasanaeth Addysg yng Ngwynedd.

Cyfrifoldebau a Dyletswyddau

Bod â chyfrifoldeb uniongyrchol am safonau digidol hyd at safon TGAU.

Gweithredu fel y pwynt cyswllt i'r ysgolion yn ei maes arbenigedd.

Sicrhau arweiniad i ymholiadau Penaethiaid yn effeithiol ac effeithlon.

Hyrwyddo cydweithio ffurfiol rhwng ysgolion er mwyn gweithredu arfer dda a rhagorol trwy hyrwyddo'r cysyniad o sefydliad sydd yn dysgu.

Cynnig cefnogaeth a gosod her i ddysgu ac addysgu yn y dosbarth (addysgeg) drwy roi cefnogaeth a chyngor ar ddulliau dysgu, addysgu a sgiliau, ac ar arfarnu ansawdd y dysgu a'r addysgu, yn ogystal â nodi arferion dysgu ac addysgu effeithiol y gellir eu cyd-rannu o fewn, ac ar draws Gwynedd.

Bod â chyfrifoldeb uniongyrchol am gydlynu cefnogaeth gwricwlwm trwy osod her a chefnogaeth strategol i strategaethau ddysgu ac addysgu a datblygu'r cwricwlwm o fewn meysydd pwnc penodol.

Darparu cymorth a her broffesiynol y ar draws meysydd allweddol megis:
• Cynnydd pob Dysgwr (gan gynnwys grwpiau o ddysgwyr megis ADY, PYD ac ati).
• Addysgu a Dysgu
• Cynllunio a Chefnogi'r Cwricwlwm.

Cynnig arweiniad yn gysylltiedig â safonau digidol ar gynnydd plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol gan sicrhau mewnbwn arbenigwyr lle'n briodol.

Bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol drwy gyfrannu at brosesau hunanwerthuso, cynllunio gwelliant a sicrhau ansawdd.

Cyfrannu tuag at ddatrys materion penodol sy'n ymwneud â materion sy'n gysylltiedig â phwnc/cwricwlwm.

Sicrhau gweithredu cyflym ac effeithiol wrth fonitro safonau a chynnydd mewn ysgolion ac i frocera cymorth ychwanegol effeithiol i ysgolion, yn ôl yr angen.

Gellid gofyn i Swyddog Cefnogi Pynciol Arwain agwedd gytøn ar wella ysgolion ar draws Gwynedd a pe byddai'r angen Ynys Môn.

Cynnal a datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol gyda strategaethau cenedlaethol a chyrff allanol eraill.

Paratoi a chyflwyno gwybodaeth ar gyfer monitro allanol fel y bo'n briodol, hyn yn cynnwys rhaglenni ariennir drwy grantiau.

Cynnal a datblygu gwaith partneriaeth hynod effeithiol gyda Phenaethiaid a Chyrff Llywodraethu, er mwyn sicrhau bod datblygiad yn cael ei gyfoethogi gan yr arbenigedd sydd eisoes yn bresennol mewn ysgolion.

Cyfrannu at gynllunio a darparu Cynnig Dysgu Proffesiynol i sicrhau Gwella Ysgolion ar draws Gwynedd mewn ymateb i flaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Gweithio gyda'r Pennaeth Cynorthwyol Cefnogaeth Ysgolion ac arweinwyr ysgolion i baratoi ar gyfer ymweliadau Estyn (ysgol, ac Awdurdod Lleol) a chyfrannu atynt, ac i gefnogi unrhyw weithgaredd dilynol perthnasol.

Bydd gan bob Swyddog Cefnogi Pynciol gyfrifoldeb am safonau digidol ar lefel sirol.

Ychwanegol

• Bydd natur y gwaith yn golygu bod deilydd y swydd yn cyflawni gwaith tu allan i oriau gwaith arferol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Gall bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd, o dro i dro, fynychu cyrsiau hyfforddi, cynadleddau, seminarau neu gyfarfodydd eraill fel sy'n ofynnol yn sgîl ei anghenion hyfforddiant ac anghenion y Gwasanaeth.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.

Yr angen i weithio oriau anghymdeithasol.

Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau'r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o'r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau'r swydd newid o bryd i'w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a'r lefel cyfrifoldeb.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi